Am yn rhy hir, bu'r artist Gwen John (1876–1939) yng nghysgod clamp o bersonoliaeth ei brawd, Augustus John. Ond dros y blynyddoedd diweddar, mae hi wedi llwyddo i'w ddisodli o'r llifolau, gan wireddu'i broffwydoliaeth ef y byddai 'ymhen hanner can mlynedd yn cael fy adnabod fel brawd Gwen John.' Mae'i phortreadau o fenywod anhysbys yn eistedd mewn ystafelloedd tawel, dirodres, yn gyforiog o angerdd mewnweledol sy'n tystio i'w gweledigaeth berffeithiol, bersonol. Ni fu iddi gysylltu'i hunan ag unrhyw grŵp na mudiad, ond roedd hi'n ffyrnig o annibynnol, gan ddilyn ei llwybr artistig ei hunan gyda diffuantrwydd dwys.

Gwen John

Gwen John c.1900

Gwen John (1876–1939)

National Portrait Gallery, London

Dengys ei hunan-bortread o tua 1900 i ni ymdeimlad o'i hegni a'i phenderfynolrwydd. Mae'n dangos ei hun yn syllu'n hyderus atom ni, ei llaw ar ei chanol, a'i llewys Edwardaidd enfawr fel hwyliau llong. Ar yr un pryd, teimla'n bell oddi wrthom, ac mae'r lliwiau tawel yn rhoi ymdeimlad o gravitas myfyriol.

Paentiwyd y gwaith pan gafodd hi ei harddangosfa gyntaf yn y New English Club, y lleoliad a ffafriwyd gan lawer o raddedigion Coleg Celf Gain Slade yn Llundain. Y Slade oedd yr unig goleg celf Prydeinig ar y pryd oedd yn derbyn myfyrwyr benywaidd. Aeth Gwen John yno yn 1895, gan ddilyn ôl troed Augustus. Roedd y brawd a chwaer wedi cael eu magu yn Sir Benfro, yn Hwlffordd ac wedyn yn Ninbych-y-pysgod, gyda'u tad gweddw. Cefndir gwylaidd, anartistig ydoedd, a symud i'r Slade oedd yr arwydd fod gyrfa artistig Gwen John ar ddechrau.

Young Woman in a Red Shawl

Young Woman in a Red Shawl 1917–1923

Gwen John (1876–1939)

York Museums Trust

Wedi'i chyfnod yn y Slade, ble ffurfiodd hi gyfeillgarwch oes gydag artistiaid benywaidd eraill, symudodd Gwen John i Baris i astudio yn Académie Carmen Whistler. Ystyriai Whistler fod paentio'n ddisgyblaeth resymegol, gan honni, 'Dydw i ddim yn dysgu celf, rwy'n dysgu gosod paent a brwshys yn wyddonol.'

Cafodd y dull addysgu hwn ddylanwad dwfn ar John wrth iddi ddatblygu dull trylwyr, trefnus o weithio, a llygad dda am fanylder technegol. Rhoddodd o'r neilltu yr arfer traddodiadol o ddefnyddio caenen glir gan ffafrio yn hytrach dechneg impasto, gan osod y paent yn gyffyrddiadau bychain, trwchus nes bod arwyneb y darlun yn pefrio fel mosaic. Byddai'n paratoi'r cynfasau'i hunan gan ddefnyddio'i dull ei hun, a datblygodd system rifol er mwyn categoreiddio gwerthoedd tonaidd, sydd wedi peri fod ei nodiadau am gymysgu lliwiau'n rhwystredig o annealladwy i haneswyr celf heddiw. Syfrdanwyd Augustus gan y 'dull gwyddonol' y manylir arno yn llyfrau nodiadau ei chwaer, gan ddweud eu bod nhw'n achosi iddo ef deimlo fel 'cau'r siop.'

Vase of Flowers

Vase of Flowers 1910s

Gwen John (1876–1939)

Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales

Yn ystod haf 1903, penderfynodd John a'i chyfeilles (a chariad ei brawd) Dorelia McNeill gerdded i Rufain. Prin fod ganddyn nhw ddim eiddo personol yn eu bagiau, ond roedden nhw'n drymlwythog gan offer peintio, ac roedden nhw'n talu am eu taith drwy werthu brasluniau o bortreadau ar y ffordd. Rhoddodd y ddwy'r gorau i'w cynllun ar ôl cyrraedd Toulouse, a symudodd John i Baris, ble byddai'n byw weddill ei hoes.

Yn Toulouse, paentiodd John dri phortread o Dorelia. Dengys The Student Dorelia wedi ymgolli yn ei meddyliau, gan syllu ar bentwr o lyfrau o'i blaen. Cawn ni'r ymdeimlad ein bod wedi tarfu ar ennyd o fyfyrio unig. Mae hi mewn lle distadl, llwydaidd, ac, fel yn achos holl bortreadau John, ymdeimlwn bresenoldeb byd mewnol llawer cyfoethocach, sy'n cael ei gelu'n bryfoclyd oddi wrthym.

The Student

The Student 1903

Gwen John (1876–1939)

Manchester Art Gallery

Ym Mharis, bu John yn byw mewn cyfres o ystafelloedd ym Montparnasse, ardal fohemaidd Paris. Daeth hi'n fodel i artistiaid, a dechreuodd weithio yn stiwdio Rodin. Datblygodd ei chyfeillgarwch â'r cerflunydd yn garwriaeth danbaid. Mae'i llythyrau ato ef yn datgelu natur angerddol ei phersonoliaeth: er gwaetha'i swildod gyda dieithriaid, roedd ynddi'r gallu i gynnal perthynas ddwys o agos a hyd yn oed obsesiynol â'r bobl oedd yn agos ati.

Cafodd garwriaethau gydol ei hoes gyda dynion a menywod, ond Rodin oedd ei chariad mawr, er gwaetha'r bwlch o 36 mlynedd oedd rhyngddynt. Mae'i llythyrau ato (y byddai hi'n eu drafftio a'u golygu nes ei bod hi'n fodlon) yn eithriadol angerddol; disgrifia Rodin fel 'y cyfan sy'n hardd a rhamantus yn fy mywyd'. Mae'r llythyrau a gyfansoddodd Rodin ati hi'n dangos consýrn dros ei llesiant a'i thuedd i beidio â gofalu amdani'i hun.

The Letter

The Letter 1924

Gwen John (1876–1939)

Manchester Art Gallery

A Lady Reading

A Lady Reading 1909–11

Gwen John (1876–1939)

Tate

Paentiwyd un o'i gweithiau mwyaf pwysig, A Lady Reading, yn ystod y cyfnod hwn, yn 1909–1911. Yr olygfa yw ei hystafell hi ei hun ym Mharis, ac mae'r paentiadau o gathod ar y waliau ganddi hi hefyd. Mae rhywbeth bron yn affwysol o solet am y fenyw, er gwaetha'i meinder. Mae'r paentiad yn ymwneud â llonyddwch a thangnefedd, ond mae yno ymdeimlad hefyd o rywbeth yn corddi o dan yr wyneb. Gallwn synhwyro fod y fenyw'n canolbwyntio; mae hi ar wahân i ni, wedi ymgolli yn ei llyfr, yn enigmatig a hardd yn ei holl symlrwydd.

Yn 1913, symudodd John i faestref Meudon, gan fyw mewn fflat ar y llawr uwch. Roedd hi'n mwynhau'r unigedd ac (fel y pryderai Rodin) yn byw bywyd darbodus. Prin y byddai'n arddangos ei gwaith, a byddai'n gwerthu darnau am lai o arian nag yr oedd y cleient yn ei gynnig. Yn yr un flwyddyn, cafodd dröedigaeth i Gatholigiaeth. Profai'i ffydd mewn modd eithriadol bersonol, oedd yn gyfwerth yn unig â'i hymrwymiad i'w chelfyddyd. 'Fy nghrefydd a'm celf, dyma fy mywyd,' meddai. 

Interior

Interior 1924

Gwen John (1876–1939)

Manchester Art Gallery

Daeth ei hystafell gyfyng, anghyfannedd ym Meudon yn bwnc ei phaentiadau. Dengys Interior - a baentiwyd yn 1924, ac sy'n gyforiog o wyn a llwyd golau - fwrdd wedi'i osod islaw ffenestr atig uchel. Troir yr ystafell syml yn hardd gan ansawdd cyfoethog y golau sy'n pefrio ar wyneb y bwrdd ac yn tywynnu oddi ar y waliau.

A Young Nun

A Young Nun c.1915–1920

Gwen John (1876–1939)

National Galleries of Scotland

Paentiodd John sawl portread o'r lleianod lleol ym Meudon hefyd, fel A Young Nun, sy'n gor-wneud eu breichiau a'u dwylo ryw ychydig, i greu ymdeimlad o anferthedd. Mae'r fenyw wedi'i hamwisgo gan ei habid, a baentiwyd â chadernid, gan fygwth llyncu'i hunaniaeth, bron. Ond mae'r wyneb cywrain, a gyfleir mor dyner, yn syllu arnom yn feddylgar, gan drwytho'r paentiad â naws ysbrydol.

Symudodd yr artist i gwt a oedd wedi'i godi ar ddarn o dir anial yn 1926, a bu'n byw yno fel meudwy gyda'i chathod annwyl. Oherwydd y blynyddoedd enciliol olaf hyn, a'i hamharodrwydd i ddangos na gwerthu'i gwaith yn ystod ei bywyd, cafodd ei hanghofio i bob pwrpas ar ôl ei marwolaeth yn 1939.

Dros y blynyddoedd diweddar, bu'n destun nifer fawr o lyfrau ac arddangosfeydd, ac fe'i dethlir fel artist Prydeinig o bwys o'r ugeinfed ganrif. Yr hyn sy'n gwneud ei gwaith mor ddeniadol yw'r cydbwysedd rhwng hunanholi llonydd a dwyster presenoldeb. Mae gan y menywod a baentiwyd ganddi fydoedd mewnol; maen nhw'n dyrchafu'u hystafelloedd distadl â'u meddyliau cyfoethog, dirgel. Mae'r beirniad Lisa Tickner o'r farn fod paentiadau John wedi dod 'mor agos efallai ag y gall delwedd ddod i ddarlunio'r ymwybod.'

Catherine Jamieson, myfyriwr israddedig ym Mhrifysgol Rhydychen ac enillydd Write on Art 2018

Cyfieithiad o'r Saesneg

Cefnogwyd y cyfieithiad gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru

Darllenwch fwy o straeon yn y Gymraeg

Darllen pellach

Steph Roberts, Arsylwi'n Araf ar gelf – Y Llythyr gan Gwen John, Cwtsh Creadigol, 2023