Mae paentiad o ben Lucy Walter yn hongian yn y parlwr ym Maenodry Scolton, tŷ Fictoraidd yn Sir Benfro – pen heb gorff.

Lucy Walter (c.1630–1658)

Image credit: Pembrokeshire County Council's Museums Service

Lucy Walter (c.1630–1658)

Peter Lely (1618–1680) (attributed to)

Pembrokeshire County Council's Museums Service

Ganed Lucy Walter yn 1630 yng Nghastell Roch, Sir Benfro ac yn ôl Memoirs of the Court of England (1675) gan D'Aulnoy, roedd hi'n ordderch (feistres) ac yn wraig honedig i Siarl II. Câi ei nabod fel Lucy Barlow hefyd ac, ar ôl iddi farw, cafodd ei defnyddio fel pêl-droed wleidyddol, gyda rhai'n ei phortreadu fel mam gariadus ac eraill yn ei phardduo fel putain llys o dras isel.

Honnai Iago II fod Algernon Sidney wedi'i phrynu am 50 darn o aur, ond na allodd fanteisio ar ei 'fargen' gan iddo gael ei alw i ffwrdd gyda'r fyddin. Disgrifiodd yr awdur John Evelyn hi fel 'a beautiful, bold but insipid creature' – gan grynhoi disgwyliadau cymdeithasol arferol yr oes ar gyfer menywod.

Fel lluniau eraill tebyg o'r 'Windsor Beauties' gan Peter Lely, y priodolir y portread hwn iddo, mae'r maint a'r cyfansoddiad yn awgrymu efallai bod y pen hwn wedi'i dorri o bortread tri-chwarter hyd. Byddai hynny, trwy gyd-ddigwyddiad, yn adlewyrchu'r ffaith fod mab Lucy, James Scott wedi'i ddienyddio trwy dorri ei ben.

Er bod Scott, Dug Mynwy a Buccleuch, wedi dwrdio'i ddienyddiwr am gymryd sawl ergyd i dorri pen pobl eraill, digwyddodd yr un peth iddo ef. Bu stori fod ei ben wedi'i wnio yn ôl ar ei gorff wedyn ond gwrthbrofwyd hynny. Y gred ar un adeg oedd mai llun o Scott ar ei wely angau oedd y portread anghyffredin hwn, isod, sy'n dangos pen yn erbyn cefndir tywyll.

I gyd-fynd â'r chwedl am ei mab, mae'r stori hon yn ymgais ddamcaniaethol i 'bwytho'r corff i'r pen' – gan ailgorffori Lucy Walter yn ffigurol – trwy archwilio'r portread ohoni, ochr yn ochr â phaentiadau eraill, pur anhysbys, o fenywod gan fenywod yng nghasgliad Scolton.

Portreadau eraill o Lucy Walter

Ychydig o bortreadau o Lucy Walter sydd ar ôl. Yn 1944, prynodd yr hanesydd Allan Fea bortread gan Lely o fenyw'n dal perlau, gan gredu mai Lucy Walter ydoedd. Roedd hyn, meddai, ar y sail bod Siarl II wedi rhoi cadwyn o berlau iddi. Cafodd hyn ei gywiro gan O. R. Bagot wedyn, gan honni nid mai portread o Dorothy Grahme ydoedd, nid Lucy Walter, ac nad oedd ei gwisg yn y ffasiwn tan ryw ddeng mlynedd ar ôl i Lucy farw.

Mrs Dorothy Grahme (c.1652–1700)

Image credit: Examination Schools, University of Oxford

Mrs Dorothy Grahme (c.1652–1700) 1675–1680

Peter Lely (1618–1680) (studio of)

Examination Schools, University of Oxford

Llun arall sydd tua'r un maint â phortread Scolton yw'r paentiad o Lucy Walter yn Abbotsford House, a fu'n gartref i Syr Walter Scott. Bu'r portread hwn yn y casgliad ers o leiaf 1825 ac mae'n portreadu Lucy fel bugeiles ifanc. Roedd gwisgo fel bugeiles yn ffordd gyffredin i ferched y cyfnod gael eu portreadu y tu allan i gonfensiynau portreadau traddodiadol.

Lucy Walter (1630–1658), as a Shepherdess

Image credit: Abbotsford, The Home of Sir Walter Scott

Lucy Walter (1630–1658), as a Shepherdess

Peter Lely (1618–1680) (follower of)

Abbotsford, The Home of Sir Walter Scott

Gall hwn fod yn amrywiad ar bortread sydd bellach ar goll ond a ddaeth o Gastell Dale ac a fu'n eiddo i Mrs Mary Sophia Paynter o Ddinbych-y-pysgod. Dywedodd George Steinman fod y portread yn darlunio Lucy fel bugeiles ifanc â ffon yn un llaw, ac – yn wahanol i bortread Abbotsford – wrthi'n tynnu mwgwd.

Jemima Nicholas a stori'r Ffrancod yn ildio yn Abergwaun

Crydd o Sir Benfro oedd Jemima Nicholas – neu Jemima Fawr – a chafodd ei chydnabod am ei rhan yn ystod ymdrech olaf y Ffrancod i oresgyn tir mawr Prydain, yn 1797. Yn ôl y sôn, llwyddodd Jemima, heb gymorth, i ddal 12 o filwyr Ffrainc a chasglodd griw o fenywod lleol mewn gwisg Gymreig i orymdeithio o amgylch y Bigni – bryn amlwg yn Abergwaun – gan ysgogi'r Ffrancod i ildio.

Mae Jemima Nicholas, yng nghornel chwith isaf y paentiad, yn gwisgo clogyn coch ac yn dal picwarch. Mae'n ffigwr cryf a ffyrnig sy'n cynrychioli harddwch a beiddgarwch trwy ddewrder. Mae'n bortread anghonfensiynol o fenywod ond, yn sicr, yn un sy'n procio'r meddwl.

Ar hyn o bryd, mae'r paentiad ar fenthyg i Scolton o Amgueddfa Sir Gâr. Ni wyddom pwy yw'r artist na phryd gwnaed y llun, ond roedd yn wreiddiol yng Nghasgliad Plas Middleton. Gwelir dylanwad y paentiad ar y tapestri Glaniad y Ffrancod a ddyluniwyd gan yr artist cyfoes Elizabeth Cramp. Prosiect brodwaith yw hwn a ysbrydolwyd gan dapestri Bayeux, a'i bwytho gan 70 o fenywod lleol yn Abergwaun yn 1997.

Portread o Fanny Higgon gan Maria Isabella Pitt

Cyn i Amgueddfa Sir Benfro symud yno, roedd Scolton yn gartref i'r teulu Higgon. Rhwng 1850 ac 1852, bu mân-ddarlunwraig ddawnus ond anenwog o'r enw Maria Isabella Pitt yn paentio lluniau o'r teulu. Fel sy'n wir am yr artistiaid eraill a drafodir yma, mae hanes Pitt yn dameidiog ac yn anghyflawn. Bu Catriona Hilditch, y Swyddog Casgliadau yn Scolton, yn ddigon caredig i roi'r wybodaeth isod i mi o'i hymchwil ei hun.

Fanny Colby (1819–1901)

Image credit: Pembrokeshire County Council's Museums Service

Fanny Colby (1819–1901) 1851

Maria Isabella Pitt (active mid-19th C–late 19th C)

Pembrokeshire County Council's Museums Service

Cyfarfu Pitt â Fanny Higgon mewn ysgol berffeithio yn Llundain, a daeth yn ffrindiau â'r teulu, gan baentio eu portreadau ymhen amser. Ganed Pitt yn 1817 ac roedd yn 33 oed pan baentiodd luniau'r teulu. Roedd Fanny Higgon yn 31 oed.

Mae portread Pitt o Fanny Higgon wedi ei baentio yn ofalus ond yn sentimental. Mae ei hochr chwith yn pwyso'n oddefol ar silff, ond mae ei hochr dde yn fwy stiff. Mae ei braich dde o'i blaen, a'i mynegfys yn pwyntio wrth iddi afael yn y les du sydd am ei chluniau. Mae hyn yn wrthgyferbyniad cynnil â phetalau pinc meddal y rhosyn y mae'n gafael ynddo â blaenau ei bysedd.

Yn ôl llythyrau a dyddlyfrau'r teulu, mae Higgon yn llawn bywyd ond nid yw ei phortread yn cyfleu ei chymeriad bywiog. Golwg ddifrifol sydd arni mewn ffotograffau diweddarach hefyd.

Frances Higgon (1794–1863)

Image credit: Pembrokeshire County Council's Museums Service

Frances Higgon (1794–1863) 1851

Maria Isabella Pitt (active mid-19th C–late 19th C)

Pembrokeshire County Council's Museums Service

Roedd y teulu wedi'u plesio â'u portreadau, a gellir gwerthfawrogi dawn Pitt trwy gymharu'r coler Bertha a'r gemwaith a welir yn y portread o Frances Higgon â'r rhai go iawn sydd hefyd yn cael eu harddangos yn Scolton.

Frances Higgon's pearl brooch

Image credit: Natasha Toms / Scolton Manor Museum

Broetsh berlau Frances Higgon

cyn yr 1850au, gwneuthurwr anhysbys

Portread o Lurline May Higgon gan Beatrice Bright

Mae casgliad Scolton yn rhoi sylw i artistiaid benywaidd dawnus sydd heb eu llawn werthfawrogi – fel Beatrice Bright. Ganwyd hi yn Llundain yn 1861 ac roedd yn baentiwr medrus, yn arddangos yn eang. Gwaetha'r modd, nid oes llawer o wybodaeth ar gael am ei bywyd.

Breakers on the Shore

Image credit: Heritage Doncaster

Breakers on the Shore

Beatrice Bright (1861–1940)

Heritage Doncaster

Paentiodd Bright nifer o bortreadau yn ystod ei gyrfa, ond yr un o Lurline Higgon yw ei hunig bortread o fenyw ar Art UK. Mae'r portread yn dangos dylanwad ei morluniau, a baentiwyd yn ystod ei chyfnod yng Nghernyw rhwng 1909 ac 1914. Socialite o Awstralia oedd Lurline Moses, a daeth yn aelod o'r teulu Higgon yn 1900 trwy briodi. Mae'n ymddangos yn eithaf swil ond – fel ym mhortread Lucy Walter – mae cysgod gwên yng nghornel ei gwefusau.

Mrs Lurline May Higgon (1875–1959)

Image credit: Pembrokeshire County Council's Museums Service

Mrs Lurline May Higgon (1875–1959) exhibited 1918

Beatrice Bright (1861–1940)

Pembrokeshire County Council's Museums Service

Mae'n dal tusw o flodau glas yn un llaw, ac mae'r llall yn plygu dros ei sedd. Mae awgrym cynnil o'r môr yn ei pherlau'n ac yn y patrymau sy'n gwrthdaro ac yn chwyrlïo ar ei gwisg. Mae defnydd ysgafn yn gorffwys ar ei mynwes fel niwl y môr, a gwelir ffurf mân donnau yn y llenni glas tywyll y tu ôl iddi. Trwy bortread Beatrice Bright, mae ffurf Lurline fel pe bai'n codi i'r wyneb o forlun llawn mynegiant: amlygiad allanol o fywiogrwydd mewnol.

Portread o'r Arglwyddes Gwilym Lloyd George (Arglwyddes Tenby) gan Margaret Lindsay Williams

Bu Beatrice Bright yn astudio o dan Arthur Cope – fel ei chyd-artist Margaret Lindsay Williams a anwyd yng Nghaerdydd yn 1888. Yn 1911, Williams oedd y drydedd fenyw, yr artist cyntaf o Gymru, a'r myfyriwr ieuengaf yn 23 oed, i dderbyn medal aur gan yr Academi Frenhinol. Roedd hi'n paentio portreadau o'r teulu brenhinol ac uchel-swyddogion ond ni chafodd fod yn artist swyddogol y rhyfel; swydd i ddynion yn unig oedd honno ar y cyfan oherwydd peryglon maes y gad.

Yn ei hatgofion, soniodd Margaret Lindsay Williams am bwysigrwydd didwylledd wrth gyfleu bywyd a dywedodd fod ei phortreadau yn cael eu 'rheoli gan yr eisteddwr'. Daeth Edna Gwenfron Jones yn Arglwyddes Tenby (Arglwyddes Gwilym Lloyd George) trwy briodas yn 1921. Mewn portread sy'n cyfleu cynhesrwydd mewn tôn ac edrychiad, mae'n eistedd wedi troi tuag atom, â'i dwylo ar ei glin, gan greu dolen agos-atoch sy'n denu ein sylw at ei llygaid. Mae'r defnydd o liwiau oren a gwyrdd cynnes yn dwyn i gof fachlud haf. Mae fel pe bai'r cysylltiad rhwng yr eisteddwr a'r artist yn amlygu ei hun ar y cynfas.

Dewch i ddarganfod mwy yn Scolton

Mae Maenordy Scolton, a adeiladwyd yn 1840, yn lle pwysig yn y gymuned leol ac mae wir yn haeddu ymweliad. Wrth edrych i mewn i'w bortreadau o fenywod, datgelwyd llawer o haenau hanesyddol, yn cynnwys ei gasgliad amrywiol o artistiaid na chawsant y gwerthfawrogiad a haeddent.

Natasha Toms, artist-ymchwilydd preswyl ym Maenordy Scolton

Cyfieithiad o'r Saesneg

Cefnogwyd y cynnwys hwn gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru

Darllenwch fwy o straeon yn y Gymraeg

Darllen pellach

John Evelyn, The Diary of John Evelyn, 1879

Angela Gaffney, 'Wedded to her Art', Margaret Lindsay Williams 1889–1960, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, 1999

George Steinman, Althorp Memoirs, 1869

Margaret Lindsay Williams, 'Life was my canvas', Western Mail, 1960