Ar yr olwg gyntaf, mae'r olygfa banoramig hon o'r Drenewydd, sir Drefaldwyn, o waith yr artist lleol Edward Salter, yn cyfleu darlun gwledig sy'n nodweddiadol o Oes Fictoria. Tref fechan yn swatio yng nghesail bryniau canolbarth Cymru, wedi'i hamgylchynu gan gaeau gwyrdd iraidd lle mae gwartheg yn pori. Ond wrth edrych yn fwy manwl, mae rhywun yn dechrau sylwi ar simneiau tal ffatrïoedd tref fechan sy'n arbenigo mewn cynhyrchu deunydd gwlân meddal, sef gwlanen.
O graffu'n ddyfnach, yr hyn a ganfyddir yw darlun o gynnydd a menter oes Fictoria yn adrodd stori sy'n arbennig o briodol yn 2025 – blwyddyn dathlu daucanmlwyddiant agor y rheilffordd gyhoeddus gyntaf, rhwng Stockton a Darlington.
Yr hyn sy'n rhoi bywyd i'r peintiad hwn yw ymddangosiad, mewn cwmwl o fwg, un o locomotifau stêm ysblennydd y Cambrian Railway Company – math Sharp Stewart Rhif 48 neu 49 – wrth iddo deithio heibio adeilad newydd y Severn Valley Woollen Factory, sy'n ymdebygu i eglwys gadeiriol. Y rheilffordd, a'r locomotif hwnnw, fyddai'n trawsnewid y Drenewydd i fod yn ganolfan un o'r busnesau archebu-drwy'r-post cyntaf yn y byd ac a fyddai, maes o law, yn helpu i newid ein harferion siopa.
Golygfa o'r Drenewydd o'r De (manylyn)
1878, dyfrliw ar bapur gan Edward Salter (1830–1910)
Yn 1859, agorodd brethynnwr ifanc mentrus o'r enw Pryce Jones ei fusnes cyntaf yn Broad Street, y Drenewydd. Yn yr un flwyddyn, dechreuodd Rheilffordd Llanidloes i'r Drenewydd redeg gwasanaeth trenau rhwng y ddwy dref – ddeuddeg milltir oddi wrth ei gilydd – oedd yn cynhyrchu gwlanen. Mae'n debygol fod Pryce yn un o'r 2,000 o deithwyr aeth ar y daith agoriadol ar 31ain Awst y flwyddyn honno, ac mae'n bosibl mai ar yr union ddiwrnod hwnnw y sylweddolodd sut y gallai'r rheilffordd chwyldroi'r modd y mae pobl yn siopa.
Yn fuan, roedd yn anfon samplau o ffabrigau allan i'w gwsmeriaid, gan wneud defnydd o'r system post cyffredinol newydd, a dosbarthu parseli o'i nwyddau ar y trên i'w gwsmeriaid bodlon. O fewn degawd, roedd y Drenewydd wedi'i chysylltu â'r rhwydwaith rheilffyrdd cenedlaethol oedd yn ehangu'n gyflym, a chatalogau print wedi disodli'r samplau ffabrig.
Erbyn yr adeg honno roedd Pryce wedi bathu slogan marchnata newydd – 'Siopa yng Nghysur eich Cartref' – ac wedi ailfrandio'i fusnes fel Warws y 'Royal Welsh'. Roedd yr enw'n ddewis da gan ei fod bellach yn darparu ei nwyddau i'r Frenhines Fictoria, ynghyd â'r rhan fwyaf o deuluoedd brenhinol Ewrop.
Catalog Warws y Royal Welsh, 1896
Erbyn 1878, roedd y busnes wedi tyfu'n rhy fawr i'r siop yn Broad Street. Aeth Pryce ati i ddewis safle newydd – a ble well na drws nesaf i orsaf drenau'r Drenewydd, a welir yng nghanol blaen y peintiad. Ond doedd gan Pryce ddim diddordeb mewn adeiladu siop fwy o faint: yn hytrach, adeiladodd yr hyn y byddem ni heddiw'n ei disgrifio fel canolfan ddosbarthu.
Roedd yr adeilad aml-lawr hwn, a addurnwyd â'r Arfbais Frenhinol a chopïau mewn carreg gerfiedig o'r medalau a enillwyd mewn Ffeiriau Masnach Rhyngwladol, wedi'i gyflenwi â'r dechnoleg ddiweddaraf – lifftiau hydrolig, system ffôn fewnol ac, ychydig yn ddiweddarach, trydan wedi'i gyflenwi gan ddeinamo a gâi ei bweru â dŵr o Afon Hafren.
Wrth i weithwyr ychwanegu'r manylion olaf at Warws y Royal Welsh, roedd Salter yn eistedd yn y cae uwchlaw yn peintio'i ddarlun, ac oherwydd hynny galluogwyd ef i gynnwys yr adeilad eiconig hwn oedd yn sefyll yn dalsyth uwchben yr orsaf.
Golygfa o'r Drenewydd o'r De (manylyn)
1878, dyfrliw ar bapur gan Edward Salter (1830–1910)
Yn 1887, cyrhaeddodd Pryce binacl ei lwyddiant pan gafodd y brethynnwr hwn o gefndir cyffredin ei urddo'n farchog gan y Frenhines Fictoria. Ac yntau'n anfodlon gyda dim ond un 'Pryce' yn ei enw, ychwanegodd un arall gan ddod yn Syr Pryce Pryce-Jones. Erbyn hynny roedd cyfanswm ei gwsmeriaid yn fyd-eang wedi cyrraedd nifer syfrdanol, sef 300,000 – a'r cyfan wedi digwydd oherwydd y locomotif stêm hwnnw, rhif 48 neu 49. Efallai bod y modd o archebu nwyddau a'r dulliau cludo wedi newid, ond mae'r peintiad hyfryd hwn yn cynnig cipolwg o fan cychwyn y ffordd rydyn ni'n siopa heddiw.
John Evans, Curadur Amgueddfa Tecstilau y Drenewydd
Caiff Pryce Jones ei gynnwys yn llinell amser ar-lein Railway 200 sy'n nodi daucanmlwyddiant agor Rheilffordd Stockton a Darlington. Bydd hefyd yn rhan o arddangosfa symudol Railway 200 a fydd yn teithio'r wlad drwy gydol 2025.
Cefnogwyd y cynnwys hwn gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru