Profiad annisgwyl, ar ddechrau fy ugeiniau hwyr, oedd byw ar fy mhen fy hun yn ystod pandemig byd eang. Mi ddatblygodd fy niddordeb yn 'nhirwedd yr hunan' wrth ddygymod gyda fy ynysrwydd. Dychmygais fy mywyd mewnol fel tirwedd, ac ymroddais i dendio a gofalu amdani. Roedd creadigrwydd – ysgrifennu, peintio a cherddoriaeth – yn rhannau annatod o'r meithrin hwn, yn ogystal â dod i adnabod y byd natur o fy nghwmpas a chreu gofod braf, a saff, i mi fy hun o fewn cyfyngiadau fy nghartref.

View from a Window (Back Gardens, Pencraig)

View from a Window (Back Gardens, Pencraig) 1957

Claudia Williams (1933–2024)

Oriel Môn

Treuliais y rhan fwyaf o'r cyfnod hwn yn byw yng Nghaernarfon, ac roedd Y Foryd yn ganolbwynt i fy narganfyddiad personol o dirwedd yr hunan.

Er fy mod o Ddyffryn Clwyd yn y gogledd ddwyrain, mae ochr fy mam o'r teulu yn hanu o ogledd orllewin Cymru. Rydw i wedi cael fy magu yn teithio yn ôl ac ymlaen ar hyd yr A55, a thrwy fynyddoedd Eryri, i weld fy nain a fy nhaid ym Mhen Llŷn. Mae'r cyferbyniad trawiadol rhwng Bryniau Clwyd, a mynyddoedd ac arfordir Gwynedd, wedi cael cryn dipyn o argraff arna i.

Mae fy mhrofiad personol o ddarganfod tirwedd yr hunan wedi gwreiddio a changhennu y tu hwnt i'r personol, ac wedi arwain at werthfawrogiad newydd o waith dwy artist sydd â pherthynas agos â thirwedd y gogledd orllewin: Claudia Williams (1933–2024) a Brenda Chamberlain (1912–1971).

Chapel and Ruined Abbey, Bardsey

Chapel and Ruined Abbey, Bardsey 1949

Brenda Chamberlain (1912–1971)

Bangor University

Mi wnaeth Claudia a Brenda oresgyn eu cyfyngiadau fel menywod yn y ganrif ddiwethaf, ac mae gen i ddiddordeb mewn sut y gwnaethant ddarganfod a mynegi tirweddau eu bywydau. Gyda chefnogaeth ymchwil wreiddiol Robert Meyrick a Harry Heuser ar waith Claudia Williams; a Jill Piercy a Kate Holman ar Brenda Chamberlain, rydw i wedi meithrin dealltwriaeth newydd o waith y ddwy artist. Dyma ddwy a heriodd beth a oedd yn bosib i fenywod ei gyflawni yn ystod eu hamser, a hynny trwy flaenioraethu eu creadigrwydd a'u gyrfaoedd fel artistiaid.

The Carry Cot

The Carry Cot 1957

Claudia Williams (1933–2024)

Oriel Môn

Nododd yr Athro Robert Meyrick fod gwaith Claudia Williams yn optimistaidd ac yn ysbrydoliaeth i genhedlaethau o artistiaid ifanc o Gymru, 'because Claudia proved that it was possible to forge a career as a woman in Wales and to exhibit and be successful' (erthygl BBC News, 2024). Roedd Claudia yn caru bod yn fam, ond roedd yn ei chyfyngu i'r cartref a rhag mynd i amgueddfeydd a galerïau.

'Time was so precious' rhannodd Claudia, ond llwyddodd i ehangu tirwedd ei bywyd artisig trwy wthio ffiniau'r cartref. Astudiodd weithiau artistiaid eraill mewn llyfrau celf a chatalogau, ac yn The Carry Cot (1957), peintiad cynnes sy'n portreadu plant yn chwarae hefo babi, gwelwn gyfeiriadau at waith yr artistiaid Édouard Vuillard a Paula Modersohn-Becker.

Self Portrait with Gwilym

Self Portrait with Gwilym c.1968

Claudia Williams (1933–2024)

Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales

Yn Hunan Bortread gyda Gwilym (1968), gwelwn Claudia yn portreadu ei gŵr, yr artist Gwilym Pritchard (1931-2015), a hithau'n peintio ochr yn ochr. Cydblethodd bywyd a chelf trwy fywydau'r ddau, yn enwedig wrth fagu eu teulu yn y 1950au a'r 1960au. Yn nyddiau cynnar rhianta, ar ôl iddynt roi'r plant i'r gwely, byddent yn peintio mewn stiwdio yn eu cartref.

Mae defnydd tywyll Claudia o sienna, ocr, wmber a glasau llwydion, a oedd yn nodweddiadol o'i phaled cynnar o liwiau, yn cyfleu pa mor fach oedd y stiwdio yn ogystal â'r ffaith roedd y ddau yn arfer peintio gyda'r nos. Roedd papurau newydd yn aml yn disgrifio Claudia fel 'artist-mother' neu'n creu penawdau fel 'after the children are put to bed'.

Mother and Babies

Mother and Babies 1963

Claudia Williams (1933–2024)

Oriel Môn

Roedd yr arfordir hefyd yn bresenoldeb pwysig yng ngwaith Claudia, a byddai hi'n aml yn peintio teuluoedd yn ymlacio ac yn chwarae ar y traeth fel yn y darn Casglu Cregyn (1981). Ym mwrlwm yr hwyl ar y traeth, mae plentyn wrthi'n dangos cragen i'w fam a gwelwn eraill ger y dŵr yn chwilio am gregyn hefyd. Mae casglu cregyn, gweithgaredd a etifeddodd Claudia gan ei rhieni'n blentyn, yn naratif gyson yn ei gwaith. Yn y darn hwn, fel yn Self Portrait with Gwilym, gwelwn ddefnydd o sienna, ocr, wmber a glasau llwydion, ond mae'r peintiad yn oleuach i gyfleu ehangder yr awyr agored.

Collecting Shells

Collecting Shells 1981

Claudia Williams (1933–2024)

Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales

Efelychir y paled hwn o liwiau yn y darn Bedsitter II with Coat Hangers (1981) a beintiwyd yn yr un flwyddyn. Mae yma naws fyfyriol wrth i ferched ifanc ymlacio ar wely. Mae Harry Heuser yn rhannu yn ei erthygl am Claudia Williams ar Art UK fod y merched yn y peintiad yn seiliedig ar ei chyd-fyfyrwyr o'i chyfnod yn astudio yn Ysgol Gelf Chelsea 30 mlynedd ynghynt. Yn y peintiad mae'r merched ar fin gadael cartref am y tro cyntaf ac mae'r hangers dillad yn wrthrychau amlwg sy'n cyfleu'r tensiwn rhwng yr ystafell wely a'r byd y tu allan.

Bedsitter II with Coat Hangers

Bedsitter II with Coat Hangers 1981

Claudia Williams (1933–2024)

Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales

Trwy ei defnydd o liw a chyfansoddiad, gwelwn Claudia yn profi fod tirwedd y cartref cyn bwysiced â thirweddau byd natur, ond er gwaethaf hyn, cefnlenni yw'r holl dirweddau ar gyfer y ffigyrau maent yn eu cynnal. Roedd peintiadau Claudia llawn arwyddocâd y tu hwnt i draethau ac ystafelloedd y cartref, a defnyddiodd ei ffigyrau i bersonoli mamolaeth neu i fynegi cysyniadau haniaethol – fel natur ddiflanedig ieuenctid sy'n cael ei awgrymu yn y peintiad hwn.

Roedd Brenda Chamberlain yn artist ac awdur roedd Claudia Williams yn ei hedmygu'n fawr, ac mi wnaethant gyfarfod pan deithiodd Claudia draw i Ynys Enlli yn ei harddegau. Hyd y gwyddon ni, ni fuodd Brenda erioed yn fam ac felly ni wynebodd yn union yr un cyfyngiadau ag y gwnaeth Claudia fel artist benywaidd. Bu Brenda fyw ar Enlli o 1947 i 1962 a diddorol yw nodi mai ei mam, Elsie Chamberlain, a roddodd yr hyder iddi lwyddo fel menyw mewn byd a oedd, bryd hynny, yn fwy cyfyngedig o lawer ar gyfer menywod.

Nododd Jill Piercy fod Elsie Chamberlain yn ddynes a oedd gyda chryn dipyn o egni a phŵer yn ardal Bangor, ac roedd hi'n cefnogi diddordeb ei merch mewn celf gan ei bod hithau hefyd yn hoff iawn o dynnu lluniau a brodweithio. Yn chwech oed, penderfynodd Brenda ei bod am ddilyn gyrfa fel artist ac awdur.

Girl with a Siamese Cat

Girl with a Siamese Cat 1951

Brenda Chamberlain (1912–1971)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Roedd Kyffin Williams (1918-2006) o'r farn fod Brenda yn 'artist of unusual talent who allowed us to glimpse into a world of aesthetic purity'. Cawn gipolwg ar hyn yn y gwaith a gynhyrchodd yn ystod ei chyfnod yn byw ar Ynys Enlli. Newidiodd persbectif Brenda o'r macro i'r meicro, ac er iddi ddehongli Enlli a'i phobl mewn llawer iawn o'i pheintiadau, edrychodd trwy chwyddwydr ei chreadigrwydd ar y dirwedd o'i hamgylch gan weld rhannau o gorff dynol, yn drosiadol, ym mhob man.

Dywedodd Jane Roberts, un o drigolion yr ynys: 'she would take us down to the beach and show us the head of a woman in the rock'. Roedd gan Brenda ddiddordeb mawr mewn cerrig ac roedd yn eu hystyried yn fframwaith i'r ddaear.

Grey Breast

Grey Breast 1962

Brenda Chamberlain (1912–1971)

STORIEL

Defnyddiodd Brenda iaith y corff i ddisgrifio'r fframwaith ddaearol hon fel yn y darn Grey Breast (1962). Cyfeirir at y garreg lwyd fel brest ddynol, ac yn y peintiad ei hun gwelwn siapiau a gweadau onglog bron yn efelychu asgwrn y frest a'r asennau.

Rockhead Red

Rockhead Red 1962

Brenda Chamberlain (1912–1971)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Darn mwy gwaedlyd a chochaidd ei naws yw Rockhead Red (1962) a beintiwyd yn yr un flwyddyn. Yn y peintiad hwn mae carreg amgen a all gael ei dehongli fel arteri neu feinwe yn y corff. Ystyriodd Brenda yr hyn roedd hi'n ei weld a'i ddarganfod trwy ei hysgrifennu a'i chelf, a chawn brofi ei syniadaeth yn ei nofel Tide-Race (1962).

'Some of these rock-veins were thin as spider web, others were thick as human arteries. The stone would seem to be composed of petrified tissues, skin, muscle, delicate bones [...]' rhannodd Brenda. Disgrifiodd y môr fel endid cyhyrog gan gyfeirio'n aml at ei hwyliau gwahanol.

Man Rock

Man Rock 1962

Brenda Chamberlain (1912–1971)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Yn y peintiadau amgen yma o 1962 mae Brenda yn portreadu Enlli fel endid dynol. Gallwn ddadlau fod corff Brenda ei hun wedi llywio sut roedd hi'n gweld y dirwedd allanol o'i hamgylch, yn ogystal â'r honiad fod ugain mil o seintiau wedi cael eu claddu ar yr ynys. Er i Brenda fyw mor agos i'r môr am bron i bymtheg mlynedd, roedd arni hi ofn boddi; ond ni wnaeth yr ofn hwn rwystro ei chwilfrydedd o'r modd y gall corff boddedig drawsnewid (yn ddychmygol) i garreg 'shaped and sculpted by the action of the sea and the pull of the tides'. Mewn ffordd, gallwn ddadlau fod tirwedd fewnol Brenda wedi trawsnewid yn yr un modd wrth brofi'r ynys a'i helfennau.

Storm on a Sea Bed

Storm on a Sea Bed 1962

Brenda Chamberlain (1912–1971)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Synhwyraf fod tirwedd ac ynysrwydd Enlli wedi dylanwadu'n fawr ar waith a meddylfryd Brenda Chamberlain, ac roedd symbiosis naturiol rhwng metamorffeiddiad y dirwedd a metamorffeiddiad yr hunan. Roedd tirwedd ei chartref ar Enlli hefyd yn ganfas iddi, ac yn 2022 cefais y fraint o ymweld â'i hen gartref ar yr ynys, 'Carreg Fawr', lle mae ei murluniau yn dal i'w gweld ar y waliau hyd heddiw.

Arhosais ar Enlli am y tro cyntaf yn 2018 ac mi gafodd fy arhosiad cyntaf cryn dipyn o argraff arna i, fel y modd rydw i'n cysylltu â'r dirwedd a'r creaduriaid o fy amgylch, a fy mherthynas gyda thawelwch (sydd byth yn gwbl dawel). Roedd fy mhrofiad cyntaf ar Ynys Enlli yn un arwyddocaol a llesol wrth wynebu'r ynysrwydd a brofais yn ystod pandemig COVID-19. Arbennig, felly, oedd medru dychwelyd yn 2022 ar ôl profi bywyd ynysig ar y tir mawr.

Bardsey Island, 2022

Ynys Enlli, 2022

Trwy ymrwymo i'w bywydau fel artistiaid, a metamorffeiddio gyda'u bywyd a'u crefft, gallwn ddadlau fod Claudia Williams a Brenda Chamberlain ill dwy wedi meithrin a gofalu am eu tirweddau mewnol, ac mai hyn a alluogodd iddynt esblygu. Yn wahanol i Brenda Chamberlain, a oedd gyda pherthynas symbiotig gyda'r dirwedd, camp Claudia Williams, yn fy marn i, oedd gwthio ffiniau ei chyfyngiadau i gerfio tirwedd artistig iddi hi ei hun, ac yn y broses o wneud hyn, mi wnaeth fetamorffeiddio fel mam ac artist a llwyddo i greu gyrfa lwyddiannus iddi hi ei hun.

Heb os, mi lwyddodd y ddwy i herio beth a oedd yn bosib i fenywod ei gyflawni yn ystod eu hamser gan ehangu'r dirwedd, a chreu gorwelion newydd, ar gyfer artistiaid benywaidd yng Nghymru a thu hwnt.

Bethany Celyn, awdur, bardd, a chantores-gyfansoddwraig

Cefnogwyd y cynnwys gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru

Ysgrifenwyd y darn yn wreiddiol yn y Gymraeg

Darllen pellach

Brenda Chamberlain, Tide-Race, Seren Classics, 2019

Owain Evans, 'Artist of 'joyous, optimistic' work dies at 90', BBC News, Mehefin 2024

Jill Piercy, Brenda Chamberlain: Artist & Writer, Parthian, 2013

Harry Heuser, '"People are always interesting wherever they are": My Tribute to Claudia Williams for the London Times', blog Harry Heuser, Gorffennaf 2024

Kate Holman, Brenda Chamberlain, Gwasg Prifysgol Cymru, 1997

Robert Meyrick, Claudia Williams, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 2002

Robert Meyrick & Harry Heuser, Claudia Williams: An Intimate Acquaintance, Sansom & Co., 2013