Mae Sally Moore, a anwyd ym 1962, yn un o baentwyr ffigyrau nodedig ei chenhedlaeth. Mae ei phaentiadau yn dangos straeon dychmygol sy'n fwy gwir na'r gwirionedd, a sefyllfaoedd rhyfeddol sy'n dynodi teimladau go iawn. Mae nhw'n cynnwys trosiadau swreal megis teigrod yn y stafell fyw, mwncïod ar fwrdd y gegin a chychod bychain ar gychwyn eu taith i'r moroedd mawrion. Ond drwy'r cyfan mae hi'n delio â theimladau megis pryder, embaras neu ddisgwyliadau sy'n gyffredin i lawer ohonom heddiw. Mewn un ystyr mae ei phaentiadau yn rhyw fath o wrthdystiad; ffordd o gamfihafio a mynnu rheolaeth.
Mae hi'n defnyddio'i hun fel model yn ei phaentiadau. Ar adegau mae pobl wedi camddeall hyn i olygu bod ei gwaith yn hunangofiannol – yn archwiliad o niwrosis un fenyw. Ond mewn gwirionedd, peth ymarferol yw defnyddio hi ei hun fel model: 'Mae'n gyfleus oherwydd mae gen i syniad clir o'r math o osgo rwyf am ei greu a sut mae'r person yn y paentiad yn teimlo,' meddai. Mae hi'n hoff o fod yn hunan-gynaliadwy ac yn teimlo'n anghyfforddus yn dweud wrth fodel beth i'w wneud. Mae ailadroddiad y ffigwr yn ei gwaith yn creu effaith ddiddorol, ac yn cael ei ddwysau gan y cyd-destunau swreal. Daw'n glir bod y paentiadau yn ymdrin â phatrymau'r meddwl yn hytrach na digwyddiadau go iawn. Pan fydd hi'n ymddangos mwy nag unwaith, nid dangos gefeilliaid neu 'ddoppelgangers' yw'r bwriad ond dangos 'hunan arall'.
Magwyd Sally Moore yn y Barri. Roedd ei mam, Eira, yn goreograffydd ac yn athrawes a'i thad, Leslie Moore, yn artist uchel ei barch a fu farw pan oedd hi'n 13 mlwydd oed. Fe aeth ymlaen o'r ysgol yn y Barri i Ysgol Gelf Ruskin ym Mhrifysgol Rhydychen, ac yna ymlaen i Goleg Celf Birmingham i gwblhau MA. Pan enillodd breswyliad mawreddog Delfina fe symudodd i Lundain ac mae hi'n parhau i fyw a gweithio yno. Mae hi wedi arddangos ei gwaith yn Oriel Martin Tinney yn rheolaidd ers 1995. Ers hynny mae hi wedi ennill sawl gwobr, gan gynnwys gwobr 'The Discerning Eye', Artist y Flwyddyn Cymru ac Ysgoloriaeth Abaty yr Ysgol Brydeinig yn Rhufain.
Mae'r nofelydd William Boyd wedi ysgrifennu am ei phaentiadau gan nodi eu bod yn datgelu ei harchwiliad cyson i dymer, cof a chyflyrau'r meddwl.
Efallai bod ei gwaith Olion, a brynwyd gan Ymddiriedolaeth Derek Williams ar gyfer Amgueddfa Cymru yn datgelu nerfusrwydd ynglŷn â sefyllfaoedd cymdeithasol. Mae'n un o'i phaentiadau mwyaf deniadol ac eto mae'n awgrymu teimladau tanseiliol neu anniogel yn dilyn swper gwadd. Tu hwnt i'r lliain bwrdd gwyn, glan a'r lilïau gwynion mae yna arwyddion o drais: afal wedi'i drywanu â fforc, cyllell mewn torth o fara, gwydraid o win wedi'i dywallt dros y bwrdd a chnau dros bob man. Mae'r unig ffigwr yn y paentiad yn ddifynegiant. Ydi hi wedi cael braw? Ydi hi'n falch o fod ar ei phen ei hun, neu efallai ei bod hi'n euog? Tybed ydi hi'n cydio mewn cyllell siarp yn y llaw sydd y tu cefn iddi?
Fel myfyrwraig fe astudiodd Sally waith Pierre Bonnard yn fanwl. Gellir gweld dylanwad ei arddull intimiste yn y lliwiau dwys, y persbectif uchel a'r patrwm cyfoethog sydd i'w weld yn ei gwaith cynnar megis Ffigwr mewn Stiwdio, a grëwyd pan oedd hi oddeutu 21 ac a brynwyd gan y Gymdeithas Celfyddyd Gyfoes.
Ar olwg gyntaf mae'r ddelwedd yn ddryslyd, gyda phaentiadau o fewn y paentiad yn ychwanegu at y dryswch. Holltir y cyfansoddiad gan îsl gwag sydd i'w weld o'i ochr. Ar y dde mae menyw yn eistedd ar garthen Gymreig, yn darllen. Ar y chwith, mae paentiad i'w weld yn pwyso ar y wal gornel ac îsl arall yn dangos paentiad o'r fenyw ar y soffa. Mae'n bosib y bu'r paentiad ar yr îsl gwag tan yn ddiweddar. Mae'r cyfan yn cyfleu golygfa gymhleth ac yn rhewi eiliad mewn amser.
Mae ei phaentiad pwysig, Tu Chwith Allan, a ddaeth yn ddiweddarach, yn fyfyriol ac yn creu harmoni o gyferbyniadau'r lliwiau oren a glas, melyn a phorffor.
Mae ffigwr noeth yn cysgu mewn ystafell sydd wedi'i goleuo gan olau bychan sy'n dod drwy'r drws. Mae bwlch yn y wal yn dangos gardd dan haul sy'n gwawrio dros y bryniau; mae ysgol yn arwain o'r gwely tuag at ffenestr yn y nenfwd, gan awgrymu, o bosib, llwybr y ffigwr at ei breuddwydion. Mae cadwyni o loÿnnod byw yn hedfan i fyny. Cynhaliwyd ail arddangosfa unigol o waith Sally ym Mhrifysgol Caerdydd ym 1986 ac fe brynwyd y paentiad ar gyfer Neuadd y Ddinas, Caerdydd.
Yn y 1980au hwyr, fe ddatblygodd ei harddull fwyaf nodweddiadol – sef i gynnwys hi ei hun fel model, a thalu sylw eithriadol at fanylion cain y llun. Tua 1991, fe gychwynnodd baentio ar fwrdd yn lle cynfas. Efallai bod hyn yn swnio'n newid bychan, ond roedd y newidiadau yn ei gwaith yn amlwg. Fe ganiataodd yr arwyneb esmwyth iddi greu hygrededd newydd ac fe gychwynnodd weithio ar raddfa lai gyda rheolaeth lwyr dros y paent, gan osgoi marciau ystumiol.
Fe roddodd ei hysgoloriaeth yn Rhufain ym 1992/1993 y cyfle iddi astudio gwaith Giorgione, Titian a Caravaggio. Fe gychwynnodd ddefnyddio farnais i ddod â'r cyfan at ei gilydd, a sglein i newid y tôn. Ysgrifennodd 'Rydw i am ddangos rhinweddau pethau – sglain defnydd, meddaldod ffwr mwnci, fflach o olau mewn llygad sy'n dangos bod y llygad yn wlyb, cyflwr y croen.'
Yn fwy diweddar mae Sally wedi dychwelyd droeon at yr Hen Feistri, gan dalu teyrnged i gyfansoddiadau adnabyddus. Mae hi'n parhau i ddefnyddio'i hun yn fodel, ond yn achlysurol bydd ei gwaith yn galw am ffigwr gwrywaidd hefyd, fel y gwelir yn y paentiad Y Dyn Dymunol Hwn.
Mae'r paentiad hwn yn bryfoclyd yn y ffordd y mae'n gadael sawl cwestiwn heb ei ateb, yn debyg i'r paentiad a'i hysbrydolodd – The Girl with the Wine Glas gan Vermeer. Fel arfer mae'r paentiad gan Vermeer yn cael ei ystyried yn olygfa swyno, ond pam fod y dyn yn agor ei law dan law'r ferch? Ydy'r dyn yn cynnig gwydryn o win iddi hi, neu yn ceisio'i gymryd oddi wrthi? Yn y ddau baentiad mae'r dyn yn edrych ar y ferch, a hithau'n edrych arnom ni. Mae menywod aeddfed Sally yn ymddangos fel petaent yn hyderus wrth y llyw.
Mae'r rhain yn baentiadau cyfoethog a fydd yn ysgogi ymateb gwahanol gan bawb sy'n eu gweld. Fel y dywedodd William Boyd amdanynt yn Modern Painters ym 1997:
'Bydd naws a dehongliad y paentiadau yn oddrychol: bydd adar, cwch pren, mwnci neu loÿnnod byw yn ennyn ias oer neu gyffro yn dibynnu ar y gynulleidfa. Ond nid yw'r cyfansoddid na'r cyfosodiad yn ffuantus na'n anystyriol: maent yn swyno, yn aflonyddu, yn drysu, yn diddanu ac yn hudo. Ein dewis ni yw e, yn y diwedd.'
Peter Wakelin, awdur a churadur
Roedd arddangosfa o baentiadau Sally Moore i'w gweld yn Oriel Martin Tinney, Caerdydd o'r 6ed i'r 21ain o Dachwedd 2019.
Cyhoeddwyd Sally Moore: Acting Up gan Peter Wakelin, gan Sansom & Company
Cyfieithiad o'r Saesneg
Cefnogwyd y cyfieithiad gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru