Yn y gyfres 'Saith cwestiwn gyda...' mae Art UK yn siarad gyda rhai o'r artistiaid newydd a sefydledig fwyaf cyffrous sy'n gweithio heddiw.
Artist sydd wedi ennill llawer o wobrau yw Lowri Davies, sy'n gweithio o'i stiwdio yn Fireworks Clay Studios yng Nghaerdydd. Mae'n gweithio gyda tsieni asgwrn a phorslen, gan greu casgliadau o gwpanau te, jygiau, fasys a phlatiau prydferth, ac arnynt ddarluniau cain wedi'u hysbrydoli gan ei gwreiddiau yng Nghymru.
Cefais sgwrs gyda Lowri yn dilyn cyhoeddi adnoddau newydd Engage Cymru ar bum artist Cymreig sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru. Buom ni'n gweithio gyda Rhwydwaith Cenedlaethol Addysg y Celfyddydau mewn cydweithrediad â'r artistiaid Rhian Haf ac Elly Strigner i gynhyrchu'r adnoddau i gefnogi maes Dysgu ac Arbenigedd y Celfyddydau Mynegiannol yn y Cwricwlwm newydd i Gymru. Cafwyd cefnogaeth i'r prosiect gan Gymdeithas Celfyddyd Gyfoes Cymru a defnyddiwyd gweithiau celf o'u casgliad dosbarthedig.
Cwpan a Hambwrdd, Fâs Fawr a Thebot
2022, hambwrdd tsieni asgwrn a phorslen gan Lowri Davies (g.1978). Casgliad Preifat. Ar Fâs Fawr’ ceir peintiad o Drwyn Larnog a glas y dorlan, ac ar ‘Tebot’ ceir peintiad o raeadr ar Ystâd Hafod
Siân Lile-Pastore: Pa mor bwysig oedd y celfyddydau yn eich addysg yn yr ysgol, ac ydych chi'n sylwi ar unrhyw wahaniaeth yn y ffordd y caiff eich plant eu dysgu yn yr ysgol heddiw?
Lowri Davies: Roeddwn i'n ffodus wrth dyfu i fyny fy mod yn gallu cerdded o fy nghartref i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth lle'r oedd dosbarth crochenwaith ar fore Sadwrn yn ogystal â chael gweithdai clai a phrintio drwy'r ysgol gynradd ac uwchradd.
Yn naturiol mae fy mhlant yn cael eu cyflwyno i fwy o weithgareddau celf gan fy mod i'n artist gweithredol, ond yn yr ysgol, cafodd un o fy mhlant hefyd brofiad ar brosiect Ysgolion Creadigol Arweiniol Cyngor Celfyddydau Cymru. Roedd buddiannau hyn yn glir i mi a dwi'n gwerthfawrogi pa mor lwcus oedd e gan nad yw'r profiad hwn ar gael i bawb. Mae'n bosib na fydd fy mhlentyn arall yn cael profi hyn gan fod y grŵp blwyddyn yn fwy o lawer.
Dwi hefyd yn un o grŵp o rieni sy'n rhedeg grŵp yr Urdd, gyda phwyslais cryf ar gystadlu yn y categori Celf a Chrefft yn Eisteddfod yr Urdd.
Siân: Sut ddechreuoch chi ymwneud â serameg?
Lowri: Cefais fy nghyflwyno i serameg yng Nghanolfan y Celfyddydau. Roeddwn i wrth fy modd gyda'r gwersi crochenwaith ar fore Sadwrn ond roeddwn i bob amser yn siomedig gyda'r darnau ar ôl iddyn nhw gael eu tanio gan fod y gwydredd bob amser yn ryw fath o frown a gwyrdd!
View this post on Instagram
Siân: Mae cysylltiad amlwg yn eich gwaith â'ch hunaniaeth Gymreig – y menywod Cymreig yn eu gwisgoedd traddodiadol er enghraifft. Dwi hefyd wedi darllen bod cartref eich Nain yn ddylanwad, ei dresel Gymreig a'r holl eitemau oedd arni. Sut mae'r adar a'r darluniau o gwpanau yn eich gwaith yn rhan o hyn?
Lowri: Ymddangosodd yr adar yn fy ngwaith wrth i mi astudio am radd MA yn Stoke-on-Trent. Daeth y diddordeb hwn drwy lwc ac amseru, gan fy mod yn ailedrych ar grochenwaith Nantgarw ac Abertawe ac roeddwn i hefyd wedi gweld arddangosfa tacsidermi o adar yn Amgueddfa Ceredigion yn Aberystwyth gan gwmni o Oes Fictoria o'r enw Hutchings. Roedd adar i'w gweld ar grochenwaith Nantgarw ac Abertawe ac roedd yn gyfle i greu fersiynau cyfoes o'r casgliadau hyn.
Yna ymwelais i â nifer o gasgliadau tacsidermi i luniadu ac astudio gan gynnwys Amgueddfa ac Oriel Gelf The Potteries yn Stoke-on-Trent, Amgueddfa Horniman a chasgliadau yn y Smithsonian yn Washington, D.C. O ran fy Nain, mae rhai elfennau personol ac eraill sy'n fwy cyffredinol. Roeddwn i wrth fy modd gydag estheteg ei chartref a dwi'n meddwl bod ei chartref wedi dylanwadu'n gryf ar fy mhalet lliwiau.
Fâs Llanelli: Fâs fawr wedi’i haddurno â gwrthrychau a grëwyd yng Nghrochendy Llanelli
2022, tsieni asgwrn gan Lowri Davies (g.1978). Casgliad Cymdeithas Celfyddyd Gyfoes Cymru
Siân: Mae clywed bod yr adar wedi'u lluniadu o dacsidermi'n newid ymdeimlad y gwaith i mi. Mae'n teimlo eu bod wedi'u gwreiddio llawer yn fwy mewn hanes ac arddangosfeydd mewn amgueddfeydd. Ai dyna'r bwriad?
Lowri: Mae amgueddfeydd wedi bod yn llefydd pwysig i mi erioed. Os byth y byddaf i'n edrych am ysbrydoliaeth, mi af i ymweld yn aml ag amgueddfa. Amgueddfa Ceredigion, Amgueddfa Werin Sain Ffagan ac Amgueddfa ac Oriel Gelf The Potteries heb os yw rhai o fy hoff lefydd. Dwi'n ymwybodol yn gyffredinol y gallai pobl deimlo'n anghyfforddus gyda fy nefnydd o dacsidermi ond roedd enghreifftiau i'w gweld yn fy ysgol gynradd (wedi'i gwneud gan Hutchings mae'n siŵr) felly mewn ffordd anymwybodol fe ddes i'n gyfarwydd â nhw. Dwi'n cofio'n glir bod gwylan fawr a mochyn daear yn yr ysgol!
Siân: Rydych chi'n gweithio gyda phalet lliwiau cyfyngedig, yn aml yn defnyddio pinc, melyn a glas. Allwch chi sôn fwy am eich dewis o liwiau?
Lowri: Dwi'n gallu diffinio pum cyfnod o newid yn fy malet lliwiau. Y cyfnod cyntaf oedd pan oeddwn i yn yr ysgol uwchradd ac yn arbrofi'n helaeth gyda lliw - gormod weithiau o bosib. Yna collais ddau o rieni fy rhieni, un o bob ochr, a diflannodd y lliwiau. Cafodd cartref Nain ei adael fel yr oedd am nifer o flynyddoedd ac fe dreuliais i amser yn darlunio yno. Mae'r lliwiau cryf trwm yn fy ngwaith cynharach yn dod o'r cyfnod hwn.
Es i Stoke-on-Trent i astudio ar gyfer MA ac roedd y gwahaniaeth rhwng palet lliwiau Stoke ac Aberystwyth mor ddramatig o wahanol cefais fy nhynnu at liwiau Aberystwyth, a dyna'r lliwiau i mi eu defnyddio tan bandemig y coronavirus. Ers hynny, mae fy lliwiau wedi cryfhau eto, yn rhannol oherwydd set hyfryd newydd o ddyfrlliwiau Sennelier ac mae'n debyg am fod fy mhlant yn ifanc hefyd.
Casgliad Set Llestri Te
2022, hambwrdd tsieni asgwrn a phorslen gan Lowri Davies (g.1978). Casgliad preifat. Cwpanau a soseri gyda pheintiadau o Lyn Cregennan, gylfinir a choeden; hambwrdd mawr gyda thebot â pheintiad o raeadr ar Ystâd Hafod Estate; a bwrdd siwgr gyda hwyaid
Siân: Rydych chi wedi sôn o'r blaen am Eric Ravilious fel ysbrydoliaeth: dwi'n teimlo bod elfennau tebyg yn eich gwaith, fel y palet lliwiau cyfyngedig a'r naws hiraethus. Beth yn ei waith sy'n tynnu eich sylw yn arbennig?
Lowri: Cefais fy nghyflwyno iddo am y tro cyntaf wrth ymweld â World of Wedgwood yn Barlaston, Stoke, lle gwelais ei Gasgliad o Erddi. Roedden nhw mor wahanol i unrhyw beth arall. Yna daeth y lliw melyn yn bwysig yn fy ngwaith MA cynnar oedd yn sicr yn gydnabyddiaeth i Ravilious. Mae rhai o'r gweithiau ar Art UK yn fy atgoffa pam i mi gael fy nenu ato yn y lle cyntaf, fel Model Ships and Railways, Railways Pharmaceutical Chemist a Coachbuilder.
Yna es i ati i ymchwilio ei weithiau eraill a chael fy nhynnu at y delweddau o'i furlun prydferth ar bier Bae Colwyn a'i ddarluniau o Gapel-y-ffin. Mae ei ddarluniau o'r Ail Ryfel Byd yn rhyfeddol o brydferth ond hefyd mor ingol, yn enwedig gan ein bod ni'n gwybod iddo ddiflannu wrth hedfan i Wlad yr Iâ yn ystod y cyfnod hwn.
Wet Afternoon, Capel-y-ffin
c.1938, dyfrlliw a phensil ar bapur gan Eric Ravilious (1903–1942)
Siân: Rydych chi'n gweithio yn Fireworks Clay Studios yng Nghaerdydd. Pa mor bwysig yw hi i fod ymhlith gwneuthurwyr eraill?
Lowri: Mae Fireworks wedi chwarae rhan bwysig yn fy ngwaith. Doeddwn i erioed wedi disgwyl bod yna mor hir â hyn a fi bellach yw'r aelod sydd wedi bod yno'r hiraf. Dwi'n teimlo'n ffodus i fod wedi bod yn rhan o'r gymuned yno ac yn aml dwi'n meddwl ein bod ni'n cymryd yr elfen honno'n ganiataol. Mae gan y Stiwdio bellach gysylltiadau cryfach gyda'i lleoliad yn Lôn Tudor. Mae nifer o fusnesau eraill ar y lôn ynghyd ag ymarferwyr creadigol eraill sydd wedi creu cymuned ehangach. Mae ein cynllun i raddedigion yn Fireworks yn elfen o'r gydweithredfa sydd wedi para'n hir ac wedi cynorthwyo nifer o fyfyrwyr sydd newydd raddio. Dwi'n hapus iawn i fod wedi chwarae rhan fach yn yr elfen hon o Fireworks.
Siân Lile-Pastore, Cydlynydd Engage Cymru
Engage yw'r elusen arweiniol ar gyfer hyrwyddo ymgysylltu a chyfranogi yn y celfyddydau gweledol. Drwy eiriolaeth, ymchwil a hyfforddiant mae Engage yn helpu i sicrhau ansawdd, cynwysoldeb, a pherthnasedd cyfleoedd i ymgysylltu a chyfranogi ledled y DU. Mae Engage yn sefydliad ar draws y DU gyda gweithgareddau yng Nghymru a'r Alban yn cael eu harwain drwy Engage Cymru ac Engage Scotland. Caiff Engage gefnogaeth gan Arts Council England, Creative Scotland a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Darllen pellach
Adnoddau addysg newydd Engage Cymru ar bum artist sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru
Porwch drwy'r Serameg ar Art UK
Gwefan Lowri Davies