Mae gan Gymru hanes cyfoethog o chwedlau a chwedloniaeth. Gwlad o ddreigiau, duwiesau a barddoniaeth â llawer ohonom wedi ein magu yng nghlyw straeon am freuddwydion a hud a lledrith a drosglwyddwyd ar draws y cenedlaethau. Rydyn ni wedi arfer â chysylltu chwedloniaeth o Gymru â'r ehangder o gaeau gleision, mynyddoedd dan gapan o eira ac afonydd cefn gwlad. Ond oes hudoliaeth i'w ddatgelu mewn tirweddau mwy trefol yng Nghymru hefyd?
Peredur, Son of Efrawg: The Magical Stag
Corrie Chiswell (b.1963)
Y Mabinogion – casgliad o'r straeon rhyddiaith cynharaf yn y Gymraeg o'r ddeuddegfed ganrif a'r drydedd ganrif ar ddeg – yw un o'r cynrychioliadau mwyaf cyfarwydd o chwedloniaeth yng Nghymru. Mae'r straeon hyn yn hudol, breuddwydiol, ond hefyd yn dywyll a throfaus. A hwythau'n rhan anhepgor o ddiwylliant Cymru, bu'r Mabinogion yn ysbrydoliaeth i ystad eang o gelfyddyd a llenyddiaeth.
Paentiodd Corrie Chiswell gyfres o weithiau sy'n canolbwyntio ar gymeriadau a straeon y Mabinogion, gyda chefn gwlad a mynyddoedd Cymru'n gefnlen iddynt. Mae The Dream of Rhonabwy: The Many Coloured Horses yn ddarn swreal sy'n cynrychioli'r digwyddiadau ym mreuddwyd Rhonabwy, ble mae'n cael gweledigaeth ac yn ymweld â chyfnod y Brenin Arthur.
The Dream of Rhonabwy: The Many Coloured Horses
Corrie Chiswell (b.1963)
Gwelir elfennau o'r stori ym mhaentiad Chiswell. Mae ceffylau'r dynion yn edrych i lawr ar fwrdd gwyddbwyll, sy'n hanner ynghudd gan 'garped hud' llawr y goedwig. Dangosir y cigfrain, sy'n llofruddio gweision Arthur, yn eistedd ar ganghennau, wedi'u goleuo gan olau glas pŵl sy'n cryfhau'u presenoldeb hudol a'u grymoedd chwedlonol.
Mae chwedloniaeth a hudoliaeth yn cael eu cysylltu'n aml â'r byd naturiol. Ond beth am i ni ddechrau ystyried sut y mae ardaloedd mwy trefol, ôl-ddiwydiannol neu boblog Cymru'n dal y nodweddion hyn hefyd? Cefais i fy magu yn y Barri (ac rwy'n dal i fyw yno), tref a ddiwydiannwyd i fod yn borthladd glo i ysgafnhau baich dociau Tiger Bay yng Nghaerdydd. Yn y 1900au cynnar, Dociau'r Barri oedd allforiwr glo mwya'r byd. Er eu bod yn dal yn weithredol, arafodd gweithgarwch yn y dociau o ganlyniad i ddiyrwiad y diwydiant glo wedi'r 1980au dan ddylanwad polisïau dad-ddiwydiannu Margaret Thatcher.
Yn Pit Props, Barry Docks o waith Eric James Malthouse fe welwn ddau fyd yn dod ynghyd. Ym mlaendir y paentiad olew, gwelir glaswellt ir a blodau'n pefrio yng ngoleuni'r haul isel. Mae pentwr o foncyffion yn ymdoddi i'r borfa, gan awgrymu fod natur yn adfeddiannu'r hyn a dynnwyd oddi arni.
Yn y cefndir, gwrthgyferbynnir y byd naturiol â'r diwydiannol. Ymrithia ffatrïoedd tywyll, a'r bluen o fwg yn awgrymu eu bod yn dal i weithio, tra bo craeniau'n ymestyn i awyr wridog y machlud.
Mae'r darlun, a gynhyrchwyd gan Malthouse tua diwedd ei fywyd – pan symudodd i'r Barri a dechrau paentio golygfeydd o'r dref – yn dangos i ni fod y byd naturiol yn dwyn hudoliaeth yn ei sgil, hyd yn oed i'r llecynnau mwyaf trefol. Pan fydd mannau diwydiannol wedi dirywio a chau, bydd natur yn aildyfu.
Mae gweithiau lled-haniaethol yr artist Bert Isaac, a anwyd yng Nghaerdydd, yn archwilio'r mannau ble daw'r diwydiannol i gwrdd â'r dirwedd. Yn Mining Area, gwelwn adferiad natur mewn ardal lofaol – ar ben hen domen lo, efallai.
Mae mynedfa'r domen yn asio i fryniau'r dirwedd. Mae'r deunyddiau diwydiannol segur yn cael eu llyncu gan y coed a'r planhigion sy'n parhau i flodeuo, gan flaguro o doeau hen adeiladau, a gorchuddio'r llwybrau. Mae hudoliaeth yn y modd y mae natur yn adhawlio, gan ddod â ffrwst o fywyd gwyllt yn ei sgil. O ganlyniad, awn i mewn i fyd newydd, ble mae'r naturiol a'r ôl-ddiwydiannol ymdoddi'n un.
Dwi'n byw yn Nhregatwg, rhan hynaf y Barri, ble arferai Eglwys Cadog Sant fod yn nodwedd ganolog. Cefais fy magu yn sain straeon am wrach Tregatwg, a arferai fyw mewn bwthyn ger yr eglwys, ac a allai newid ei gwedd a throi'n sgwarnog. Dywedir bod ei mab o ddewin wedi'i gladdu ym mynwent yr eglwys hyd heddiw. Ym mhaentiad Gwyn Davies, Cadoxton Church, cyflwynir yr un fynwent honno mewn reiat o wyrdd, glas a melyn dwfn.
Mae strwythur yr eglwys yn glir mewn mannau, ond mae'n asio â'r awyr a'r caeau yn y cefndir mewn mannau eraill – nid yw'n amlwg ble mae'r byd naturiol yn gorffen a'r eglwys yn dechrau. Fe allai hyn hefyd awgrymu cyfuno bydoedd goruwchnaturiol a dynol, ar y ffiniau rhwng y byw a'r meirw.
Dengys The Most Bleeding Yew, gan Cherry Pickles, ywen a welir mewn mynwent yn Nanhyfer, Sir Benfro. Mae gan sudd y goeden liw coch fel rhwd, ac mae'n diferu o agoriad fel clwyf ar ei boncyff. Yn y paentiad, mae'r 'gwaed' hwn yn gwrthgyferbynnu â lliwiau oeraidd gweddill y darlun, a'r sudd coch yn diferu at waelod y boncyff.
Ym mhentref Nanhyfer, mae'r ywen 700-mlwydd oed wedi magu statws chwedlonol, gyda straeon lleol yn ei chysylltu â Choeden y Bywyd, neu'n honni bod gwaed y goeden yn cynrychioli'r dagrau sy'n cael eu colli dros farwolaethau diniwed.
Mewn chwedloniaeth Geltaidd, cysylltir cwningod a sgwarnogod â'r lleuad, a chredir bod gan y creaduriaid hynny y gallu i gyfathrebu ag Annwfn wrth iddyn nhw gloddio dan ddaear. Yn narlun Tony Steele-Morgan, Casnewydd, mae delwedd wedi'i fframio'n dangos cwningen i ni mewn dôl neu goedwig, a'r awyr wedi'i goleuo â lleuad lawn.
Tu allan i'r ffrâm, mae triawd o ieir bach yr haf yn arwain at gefndir ble gwelir Casnewydd ddinesig, gyda'i simneiau ffatrïoedd yn chwydu mwg sy'n cymylu'r awyr las.
Mae'r ffrâm o gwmpas y gwningen yn gweithredu fel porth. Gallai gynrychioli sut y gallai'r olygfa fod wedi edrych cyn i ddiwydiant ddod, neu gallai gynrychioli'r ffyrdd y gall dau fyd – y naturiol a'r chwedlonol, a'r poblog a dinesig – gydfodoli. Beth os yw'r gwyllt – gyda'r nos, pan fo'r ffatrïoedd ar gau, a'r bobl yn eu tai – yn derbyn arwydd i ddod yn fyw?
Mae'r môr yn cynnig llawer o nodweddion a ddaeth i gael eu cysylltu gennym â chwedloniaeth a hudoliaeth. Yn Dreams of the Sea Anna Todd, a leolir mewn ardal arfordirol ble daw gwareiddiad benben â'r môr, gwelwn gynrychioli'r eitemau hyn. Gwelir neges mewn potel, ffosil, perlau a chregyn, oll wedi'u goleuo'n llachar.
Defnyddiwyd yr eitemau hyn mewn chwedlau gwerin yn aml i ddynodi dirgelwch – dyma eitemau sy'n cynrychioli straeon y gorffennol yn ogystal â bod yn rhoddion gan y cefnfor. Yng nghefndir y paentiad, gwelwn oleudy ar erchwyn clogwyn, a gwawl goleuadau o gartrefi.
Gellir gweld y paentiad bellach yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd – enghraifft o'r modd y gall celf gyflwyno chwedloniaeth a hudoliaeth i leoliadau clinigol, trefol.
Rydw i wedi casglu'r gweithiau hyn ynghyd am fod pob un ohonynt yn ein gwahodd i ystyried Cymru fel cartref i chwedloniaeth a hudoliaeth y tu hwnt i'r eangderau confensiynol. Drwy gyfrwng presenoldeb natur, mae chwedlau'n byw o hyd mewn mannau trefol a maestrefol. Ble daw'r bydoedd naturiol, goruwchnaturiol a diwydiannol ynghyd, gellir canfod hudoliaeth yn ein trefi, ein dinasoedd a'n pentrefi hefyd.
Taylor Edmonds, bardd, awdur a hwylusydd creadigol
Cefnogwyd y cynnwys hwn gan arian oddi wrth Lywodraeth Cymru