Mae gan Gymru hanes LHDTC+ gyfoethog: o'r Celtiaid i Ivor Novello a Lesbiaid a Hoywon yn Cefnogi'r Glowyr (fel y bortreadwyd yn y ffilm Pride) i enwi ond ambell enghraifft. Mae menywod cwiar o Gymru wedi gwneud cyfraniad pwysig i gelfyddyd – fel ysbrydoliaeth i waith eraill, ac fel artistiaid eu hun. Fodd bynnag, nid yw eu hunaniaeth 'cwiar' – a ddefnyddir yma fel term eang i ddisgrifio pobl sydd yn hanesyddol wedi bodoli y tu allan i heteronormadedd – bob amser wedi'i gydnabod, er ei fod yn rhan bwysig o'u personoliaethau, eu hanes a'u gwaith. Yma rwy'n ffocysu ar fenywod a ystyrir yn eiconau cwiar o Gymru mewn celf.
'Ladis Llangollen' – Sarah Ponsonby a’r Fonesig (Charlotte) Eleanor Butler
1836, lithograff gan Richard James Lane (1800–1872), ar ôl y Fonesig Mary Leighton, gynt Parker (1810–1864)
Ladis Llangollen yw'r enghraifft fwyaf enwog. Cyfarfu Eleanor Butler a Sarah Ponsonby yn Iwerddon. Ar ôl gadael eu teuluoedd bonheddig Gwyddelig ym 1778 – gyda chymorth Mary Carryl, morwyn Sarah – aeth y ddwy ar daith o amgylch Cymru cyn mynd i Langollen ar ôl rhedeg allan o arian ac ymgartrefu yn y pen draw ym Mhlas Newydd. Roedd eu stori yn destun chwilfrydedd i lawer, ac fe ddenwyd lawer o ymwelwyr i Blas Newydd, gan gynnwys Wordsworth, Byron, ac Anne Lister – sy'n adnabyddus i rai fel y lesbiad fodern gyntaf – a ysbrydolwyd gan y Ladis.
Bu'r ddwy'n cydfyw am 50 mlynedd, ac fe ystyriwyd eu perthynas ar y pryd yn 'gyfeillgarwch rhamantus' ond heddiw fyddai'n cael ei ystyried yn berthynas o'r un rhyw neu berthynas lesbiaid. Fe ffurfiwyd y ddwy bartneriaeth oes ac roedd ci ganddynt – a chŵn olynol – pob un wedi'i enwi'n Sappho.
Fe arweiniodd eu henwogrwydd at dwristiaeth dan y thema Ladis Llangollen. Mae nifer o blatiau, cwpanau, ffigurynnau a chardiau post sy'n dangos y pâr wedi goroesi hyd heddiw, ac mae eu hen gartref, Plas Newydd – sydd bellach yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol – yn parhau'n lle poblogaidd gyda thwristiaid. Nid oedd y Ladis yn awyddus i ddelweddau ohonynt gael eu creu, ond fe ddarluniwyd eu portreadau yn gyfrinachol gan Mary Leighton ym 1828, ac fe ddilynodd nifer o ddelweddau pellach o'r portreadau gwreiddiol hyn. Fe baentiwyd eu cathod yn gynharach ym 1809, gan ddangos cymaint o ddiddordeb oedd gan bobl ym mhob agwedd o'u bywydau.
Fe ysbrydolodd y Ladis y swffragét o Iwerddon, Frances Power Cobbe a'r cerflunydd o Gymru, Mary Charlotte Lloyd, a ymgartrefodd gyda'i gilydd yng Nghymru, gan alw'u hunain yn 'Ladis Hengwrt'. Hyd y gwyddom, nid oes unrhyw gelf gan Mary Charlotte Lloyd wedi goroesi hyd heddiw, ond mae ffigwr arall cwiar o hanes celf, Gwen John – un o'r peintwyr mwyaf adnabyddus o Gymru – wedi gadael corff sylweddol o waith ar ei hôl.
Yn enwog am ei pheintiadau o ystafelloedd tawel, menywod mewnblyg a chathod, nid yw ei hunaniaeth cwiar o hyd yn cael ei gynnwys yn y trafodaethau am ei gwaith. Roedd ei pherthynas â Rodin yn adnabyddus – roedd hi'n fodel iddo, weithiau gyda menywod eraill, ac yn ddiweddarach bu'n gariad iddo – ond mae ei chariad at fenywod megis ei chyd-ddisgyblion yn y Slade, yn llai adnabyddus. Yn ddiweddarach yn ei bywyd, fe ysgrifennodd lythyrau serch i Vera Oumançoff, ond ni wnaeth Vera ymateb yn ôl; ac mae'n bosib i Gwen brofi teimladau saffig tuag at fenywod eraill hefyd, megis Dorelia McNeill. Mae hyn yn ychwanegu dimensiwn arall i bortreadau Gwen o fenywod, yn ogystal â phortreadau ohoni hi gan fenywod eraill.
Yn debyg i Gwen John, fe anwyd Nina Hamnett yn Sir Benfro, ac roedd hi hefyd yn ddeurywiol, yn paentio portreadau hardd o fenywod ac fe fu'n byw yn Ffrainc. Ond tra bod Gwen yn cael ei ddisgrifio'n hanesyddol fel menyw feudwyaidd, Nina oedd Brenhines Bohemia – yn enwog am fwynhau carwriaethau a dawnsio ar fyrddau ym Mharis a Llundain. Fe dreuliodd ei blynyddoedd olaf yn dlawd a dan ddylanwad alcohol, a bu farw ar ôl disgyniad o'i balconi.
Heddiw, mae cymeriad 'tawel' Gwen yn cael ei herio, yn enwedig wrth archwilio'i charwriaethau deurywiol a'i gweithiau celf megis ei hunan bortread o 1900, lle mae hi'n syllu allan mewn ffordd heriol at y gwyliwr. Mae Nina yn ymddangos yn herfeiddiol yn ei phortreadau hi, hefyd. Mae hunanbortread o 1913 yn ei dangos gydag un llaw ar ei chlun, efallai wedi'i hysbrydoli gan bortread Gwen. Fe siapiodd Nina ei henw drwy ei hunangofiannau, fel y gwnaeth Gwen gyda'i dewisiadau bywyd anarferol. Roedd y ddwy yn byw y tu allan i heteronormadedd, ac maent bellach yn cael ei dathlu fel eiconau cwiar o Gymru.
Roedd yr actores Gwen Ffrangcon-Davies yn gweithio yn ystod yr un oes ac yn byw yn agored fel lesbiad. Mae portread ohoni yn Amgueddfa Cymru yn ei dangos wrth ei gwaith, fel actores: mae'n sefyll yn falch o flaen ei hymwelwyr, ei mynegiant diniwed yn dal ein sylw. Nid yw hi'n ymddangos fel hi ei hun fan nyn, ond yn hytrach dyma hi'n chwarae rhan Etain yn The Immortal Hour
Mae portreadau eraill ar gael sy'n ei dangos yn chwarae ffigwr gwrywaidd yn Henry V, ac eraill fel Juliet, ei rôl enwocaf fel actores. Fe ymddangosodd hefyd fel menyw hŷn mewn sawl ffilm arswyd. Bu fyw i fod yn 101 a'r actores o Dde Affrica, Marda Vanne oedd ei phartner am sawl degawd.
Roedd Jan Morris yn hanesydd ac yn fenyw traws arloesol, a fagwyd, fel Gwen Ffrangcon-Davies, yn rhan o deulu Cymraeg yn Lloegr. Yn ddiweddarach fe symudodd Jan i Gymru, ac fe wnaeth gyfraniad sylweddol i ysgrifennu a chenedlaetholdeb Cymreig. Yn aml mae portreadau ohoni'n ei dangos yn ei chartref, Trefan Morys, lle y bu'n byw gyda'i phartner o 71 o flynyddoedd, Elizabeth Morris, a'u pedwar o blant. Roedd yn rhaid iddynt ysgaru ar ôl i Jan drawsnewid, ond yn 2008, unwyd y ddwy mewn partneriaeth sifil. Gosodwyd y cynsail gan achos Corbett v Corbett pan ysgarodd Arthur Corbett April Ashley, gwraig draws arloesol arall a oedd yn byw yn y Gelli Gandryll yn y 1980au.
Heddiw, mae mwy o gelf nag erioed o'r blaen yn cael ei greu gan fenywod traws yng Nghymru, gyda chydweithfeydd celf a phrosiectau cymunedol megis SPAF Collective a Trawsnewid gan Bloedd AC, y platfform ar gyfer ymgysylltiad ieuenctid yn Amgueddfa Cymru.
Drwy ymgyrch Monumental Welsh Women daeth portreadau eraill o fenywod cwiar o Gymru i fodolaeth. Betty Campbell oedd y Gymraes gyntaf i gael ei hanrhydeddu â cherflun cyhoeddus yng Nghymru, ac fe barhaodd yr ymgyrch i greu rhagor o gerfluniau o'r Swffragét Margaret Haig Thomas (Arglwyddes Rhondda), yr awdur Elaine Morgan, yr actifydd Elizabeth Andrews a Sarah Jane Rees (neu Cranogwen).
Sarah Jane Rees 'Cranogwen' (1839–1916)
2023
Sebastien Boyesen (b.1960)
Bardd, morwr, athrawes a golygydd y cylchgrawn Cymraeg Y Frythones oedd Cranogwen, ac fe'i choffawyd hi gyda cherflun gan Sebastien Boyesen yn ei thref enedigol, Llangrannog, yn 2023. Mae'n ymddangos mai dim ond perthnasoedd gyda menywod cafodd Cranogwen (ei phartner bywyd Jane Thomas, ac un cariad arall, Fanny Rees) felly gellir honni ei bod hi'n lesbiad yn ôl diffiniad heddiw. Nid yw hyn bob amser yn cael ei gydnabod, er bod yr ymgyrch wedi cynyddu dealltwriaeth cyhoeddus o'i hunaniaeth cwiar.
Margaret Haig Thomas (1883–1958), Viscountess Rhondda
c.1930
Alice Mary Burton (1892–1973)
Gellir dweud yr un peth am Arglwyddes Rhondda – swffragét, ffeminydd a lesbiad. Roedd ei phartneriaid benywaidd yn cynnwys y newyddiadurwr Helen Archdale a'r awdur Theodora Bosanquet. Cafodd cerflun yr Arglwyddes Rhondda gan Jane Robbins ei ddadorchuddio yng Nghasnewydd, fis Medi 2024. Mae'n bwysig cofio, pan fydd perthnasoedd lesbiaid yn cael eu dileu o hanes y menywod hyn, bod hunaniaethau a straeon y menywod yr oeddent yn eu caru hefyd yn cael eu dileu.
Lady Rhondda, Margaret Haig Thomas (1883–1958)
2024
Jane Robbins (b.1962) and Castle Fine Arts
Mae menywod cwiar o Gymru wedi cael eu cynrychioli mewn celf am ganrifoedd, ond weithiau mewn ffordd gyfrin. Mae eu hunaniaeth cwiar o bosib yn cael ei gynrychioli orau pan fod ganddyn nhw bŵer dros y ffordd cânt eu portreadu: mae hunanbortread Gwen John yn esiampl o hunan-alluogedd, tra bod Ladis Llangollen, i'r gwrthwyneb, wedi'u portreadu heb eu caniatâd.
Heddiw, gall pobl LHDTC+ bortreadu eu hunain yn fwy agored mewn celf, ond mae llawer mwy o fewn hanes cwiar Cymru ar ôl i'w harchwilio. Gall celf amlygu'r straeon hyn a'n helpu ni i gydnabod yn well y rôl mae menywod cwiar wedi chwarae yn ein diwylliant ac yn ein cymdeithas.
Mair Jones, hanesydd ac awdur
Cyfieithiad o'r Saesneg
Cefnogwyd y cynnwys hwn gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru
Darllenwch fwy o straeon yn y Gymraeg
Darllen pellach
Jane Aaron, Cranogwen (Dawn Dweud), Gwasg Prifysgol Cymru, 2023
Fiona Brideoake, The Ladies of Llangollen, Gwasg Prifysgol Bucknell, 2017
Alicia Foster, Modern Women Artists: Nina Hamnett, Llyfrau Eiderdown, 2021
LGBTQ Cymru, 'Llinell Amser LHDTC+ Siroedd Cymru', 2024
Ceridwen Lloyd-Morgan, Gwen John Letters and Notebooks, Tate Publishing, 2005
Jan Morris, Conundrum, Faber & Faber, 2018
Huw Osborne (ed.), Queer Wales, Gwasg Prifysgol Cymru, 2016
Norena Shopland, Forbidden Lives, Seren, 2017