Yn 1857, aeth yr awdur adnabyddus Frances Power Cobbe ar ymweliad i Rufain – trefedigaeth hynod o brysur oedd ar y pryd yn llawn o baentwyr a cherflunwyr arloesol – lle cyfarfu â'r cerflunydd o Gymro John Gibson. Disgrifiodd ef fel 'person hynod o ddiddorol; hen enaid Groegaidd, a ddigwyddodd gael ei eni mewn pentref yng Nghymru.'

John Gibson

John Gibson 1857

Margaret Sarah Carpenter (1793–1872)

National Portrait Gallery, London

Cyflwynwyd Cobbe i John Gibson gan yr actor Americanaidd Charlotte Cushman, matriarch grŵp o artistiaid benywaidd a fyddai heddiw'n cael eu hadnabod fel lesbiaid mae'n debyg. Yn y grŵp yma roedd y cerflunydd Mary Lloyd, a ddaeth yn bartner i Cobbe ac yn ddisgybl i Gibson. Er nad oedd Gibson bron byth yn cymryd disgyblion, gwnaeth eithriad i Lloyd, oedd yn dod o'r un sir ag ef, a hefyd i'r cerflunydd Americanaidd Harriet Hosmer.

Medusa

Medusa 1852

Harriet Hosmer (1830–1908)

Victoria Art Gallery

Y menywod hyn a fu'n helpu'r Arglwyddes Elizabeth Eastlake i ysgrifennu ei bywgraffiad o John Gibson ar ôl iddo farw. Roedd yr Arglwyddes Eastlake wedi bod yn gyfeillion ag o ers blynyddoedd lawer ac roedd Gibson wedi gwneud cerflun o'i gŵr, yr Arglwydd Eastlake.

Sir Charles Lock Eastlake (1793–1865)

Sir Charles Lock Eastlake (1793–1865) 1840

John Gibson (1790–1866)

National Portrait Gallery, London

Ganed John Gibson mewn bwthyn bach mewn pentref bach – Gyffin, ger Conwy yng ngogledd Cymru – i deulu cyffredin o Gymry Cymraeg. Roedd ei dad yn arddwr masnachol: dechrau digon gwerinol i rywun a fyddai'n dod yn enwog yn ystod ei fywyd, ac oedd â chleientiaid o'r haenau uchaf mewn cymdeithas. Pan ddisgrifiodd ei fywyd cynnar, dywedodd John:

'Roedd fy mam a nhad yn Gymry Cymraeg, roedden ni'n siarad dim byd ond Cymraeg gyda'n gilydd. Roedd siarad Saesneg yn llafurus i ni. Roedd fy nhad yn ddyn tlawd, cwbl onest; rodd fy mam yn fenyw ragorol, angerddol a meddwl cryf ganddi; hi oedd yn rheoli fy nhad bob amser, a pharhaodd i'n llywio ni oll ar hyd ei hoes. Mae arnaf ddyled fawr i fy mam am ei chyfarwyddyd cynnar mewn gwirionedd a gonestrwydd.'

Wedi iddo symud i Lerpwl, daeth John yn gerfiwr pren i ddechrau. Yna, wedi iddo gyfarfod cerflunydd marmor yr oedd ei 'waith yn fy nghyfareddu' ac, wedi iddo ddod yn rhydd o'i brentisiaeth, sylwodd William Roscoe arno a daeth yn noddwr cyntaf iddo.

William Roscoe (1753–1831)

William Roscoe (1753–1831) c.1787

John Williamson (1751–1818)

Walker Art Gallery

O'r adeg hon ymlaen, blodeuodd John fel artist o dan arweiniad Roscoe. Ei lwyddiant mawr oedd y bassorilievo, Y Seffyrau yn Cludo Psyche, a anfonwyd i'r Academi Frenhinol, lle cafodd ganmoliaeth gan John Flaxman. Eto, roedd John yn methu ymgartrefu, roedd yn aflonydd a chredai bod ei ddyfodol yn Rhufain lle'r oedd llawer o gerflunwyr mawr y cyfnod yn byw. Symudodd yno, a daeth Antonio Canova, un o'r artistiaid Neoglasurol gorau, yn noddwr iddo. Gwaith marmor cyntaf John oedd Y Bachgen o Fugail yn Cysgu (1824) ac o'r adeg honno ymlaen, tyfodd ei enwogrwydd yn raddol nes byddai pobl yn ei adnabod wrth yr enw 'Gibson o Rufain'.

Sleeping Shepherd Boy

Sleeping Shepherd Boy 1818

John Gibson (1790–1866)

Royal Academy of Arts

Ei waith mwyaf dadleuol oedd y Fenws Arlliwedig. ('Tinted Venus') Roedd John yn credu, a hynny'n hollol gywir, bod cerfluniau clasurol yn lliwgar ar un cyfnod ac felly paentiodd Fenws yn lliwiau'r cnawd – rhywbeth a syfrdanodd gymdeithas Oes Fictoria'r pryd. Roedd menyw noeth mewn marmor gwyn yn gelf; ond roedd menyw noeth yn lliwiau'r cnawd yn ddigywilydd!

Tinted Venus

Tinted Venus 1851–1856

John Gibson (1790–1866)

Walker Art Gallery

Yn Rhufain, roedd John yn agos iawn at yr artist o Gymro Penry Williams, a aned ym Merthyr Tudful ond a symudodd i Rufain yn 1827 lle arweiniodd stiwdio ffyniannus. Heddiw, credir bod John a Penry mewn perthynas un-rhyw, er bod amgylcheddau hanesyddol yn ei wneud yn anodd ei brofi'n bendant. Mae'r gair 'cwiar' – sy'n dynodi hunaniaethau rhywedd neu rywioldebau nad ydynt yn cydymffurfio â heteronormadedd – yn cael ei ddefnyddio fel term ymbarél yn aml iawn i fynd i'r afael a'r anawsterau hyn ac i osgoi heriau'r derminoleg sy'n newid mor gyflym.

Fisher Boys

Fisher Boys mid-19th C

Penry Williams (1802–1885)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Un anhawster wrth geisio canfod a oedd pobl hanesyddol mewn cyplau o'r un rhyw yw bod tystiolaeth yn cael ei dinistrio'n aml am fod cyfunrywioldeb yn anghyfreithlon yn y gorffennol. Felly, mae pobl wedi gorfod llunio rhestr o feini prawf sy'n gallu helpu i ddiffinio natur perthnasoedd – er enghraifft, pobl sy'n parhau'n ddibriod ac sydd heb blant. Mae hynny'n wir am John ac am Penry. Nid yw hyn yn brawf ynddo'i hun, ond mae'n un llinyn o'r meini prawf sydd, o'u rhoi at ei gilydd, yn darparu tystiolaeth amgylchiadol fwy perswadiol.

The Bay of Naples Seen from the Scalinata Petraio

The Bay of Naples Seen from the Scalinata Petraio 1830s

Penry Williams (1802–1885)

Cyfarthfa Castle Museum & Art Gallery

Am bron i 40 mlynedd, roedd pobl yn cysylltu enwau'r ddau, yn aml mewn cyd-destun 'cyfeirio at gwpwl': geiriau – gan y cwpwl neu bobl eriall – sy'n clymu dau berson at ei gilydd. Ni adawodd John na Penry archifau eang – arwydd arall o gwpwl o'r un rhyw yw eu bod wedi dinistrio eu harchifau yn aml iawn – fodd bynnag, mae rhai llythyrau i'w cael yn Archif yr Academi Celf Frenhinol a gellir gweld 'cyfeirio at gwpwl' yn aml yn llawer o'r rhain. Er enghraifft, byddai ffrindiau a theulu oedd yn ysgrifennu at John yn aml yn cydnabod Penry, fel yr artistiaid Caroline Tilghman a Benjamin Gibson, brawd John, oedd eisiau i John eu 'cofio at' Penry.

Byddai'r ddau ddyn yn aml yn teithio gyda'i gilydd a, phan oedden nhw yn Llundain yn 1844, ysgrifennodd John at Benjamin yn Rhufain yn gofyn iddo basio nodyn i was Penry. Tua 1865, ysgrifennodd John at ei ffrind Miss Yates, yn dweud wrthi bod y tywydd poeth yn peri iddo ef a Penry feddwl am symud, gydag anogaeth gan Mary Lloyd a ysgrifennodd ym mis Gorffennaf nad oedd hi eisiau i Penry gadw John yn ymdroi gerllaw Rhufain. Yn yr un mis, roedd y cerflunydd William Theed yn gobeithio y byddai John a Penry yn dod i Loegr, tra bo llythyrau eraill wedi sôn am y pâr yn mynd ar eu gwyliau gyda'i gilydd.

Mewn blynyddoedd diweddarach, wrth i iechyd John ddirywio, Penry a edrychodd ar ei ôl. Yn 1864 roedd y cwpwl yn bwriadu ymweld â'r Swistir, ond method iechyd John yn Leghorn ac arhosodd y ddau yno iddo gael cryfhau. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, cafodd John strôc a, phan oedd wedi ei barlysu yn ei wely, gwnaeth Penry fraslun ohono'n darllen telegram oddi wrth y Frenhines Fictoria, yn dymuno gwellhad buan iddo.

Bu farw John ar 7fed Ionawr 1866. Ysgrifennodd Hatti Hosmer at yr Arglwyddes Eastlake: 'Yn gynnar iawn ar fore marwolaeth Mr Gibson, cafodd Miss Lloyd a minnau ein galw ar frys i'w ystafell – arhosodd hithau gydag ef tan y diwedd, ond gadewais innau gusan ar ei dalcen a mynd oddi yno.' Daeth cannoedd i'w angladd yn y Fynwent Brotestannaidd yn Rhufain.

Narcissus

Narcissus 1838

John Gibson (1790–1866)

Royal Academy of Arts

Yn ei ewyllys, gadawodd John y gweithiau oedd yn weddill ganddo i'r Academi Frenhinol yn ogystal â digon o arian i ofalu amdanynt, ond, yn debyg i lawer o bartneriaid o'r un rhyw, gadawodd y rhan fwyaf o'i eiddo i Penry. Hefyd, gofynnodd yr Arglwyddes Eastlake i Penry am wybodaeth fanwl am John pan ddaeth i ysgrifennu ei fywgraffiad.

Mewn blynyddoedd diweddar, mae'r blogiwr bklynbiblio, Alex Patterson, Roberto C. Ferrari ac eraill wedi troi at waith John i astudio ei gynnwys homoerotig ,a'i duedd i rywioli cerfluniau sydd gan fwyaf yn ddynion noeth. Mae gweithiau fel Ciwpid Ynghudd fel Bachgen o Fugail a Narsisws (stori sydd â chysylltiad agos â chyfunrywioldeb) wedi cael eu harchwilio i ganfod cyfeiriadau cyfrin at angerdd un rhyw Groegaidd, y byddai llawer o wylwyr y cyfnod oedd wedi cael addysg glasurol wedi eu deall. Mae'r blogiwr di-enw yn nodi: 'Trwy ddefnyddio delweddau ac iaith weledol mewn cod i sianelu (Ant)Eros mewn celfyddyd Brydeinig, helpodd Gibson i arwain y ffordd ar gyfer hunaniaeth gyfunrywiol ymwybodol yng ngwaith Simeon Solomon, Frederic Leighton, Hamo Thornycroft, Alfred Gilbert, ac eraill.'

The Wounded Amazon

The Wounded Amazon

John Gibson (1790–1866)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Er bod cyfunrywioldeb yn anghyfreithlon ar y pryd, roedd John a Penry, fel llawer o gyplau un rhyw, wedi herio confensiwn ac wedi treulio bron i 40 mlynedd gyda'i gilydd, ac roedd y ddau wedi dod yn artistiaid llwyddiannus yn eu rhinwedd eu hunain.

Norena Shopland, awdur a hanesydd

Gellir gweld cerfluniau John Gibson yng Nghymru yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, ac mae gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru archif o'i bapurau. Gellir gweld gwaith Penry Williams yng nghasgliadau Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa, Glynn Vivian ac Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Cyfiethiad o'r Saesneg

Cefnogwyd y cynnwys hwn gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru

Darllenwch fwy o straeon yn y Gymraeg

Darllen pellach

Francis Power Cobbe a Blanche Atkinson, Life of Frances Power Cobbe as Told by Herself, S. Sonnenschein & Company, 1904

Arglwyddes Eastlake, Life of John Gibson, R.A., Sculptor, Prifysgol Rhydychen, 1870

Norena Shopland, Forbidden Lives: LGBT stories from Wales, Seren Books, 2017

Harriet Hosmer a Cornelia Carr Harriet Hosmer letters and memories, Bodley Head, 1913

Alex Patterson, John Gibson – his life in Rome, blog Amgueddfeydd Cenedlaethol Lerpwl

Roberto C. Ferrari, Beyond Polychromy, 2013u F

Archif yr Academi Celf Brenhinol (cyfeiriadau GI/1/128; GI/1/131; Gi/1/220; GI/1/224; GI/1/314; GI/1/331; GI/1/335; GI/1/369; G1/1/388)