Ers cyn cof, mae pobl wedi dweud mai rygbi'r undeb yw'r 'gêm a chwaraeant yn y nefoedd'. Ymysg y rhesymau a roddir am roi statws mor uchel i'r gêm yw ei delfrydau o barch cyfartal a thegwch, ei ysbryd dygn a'i allu i greu cyfeillgarwch sy'n mynd y tu hwnt i'r cae chwarae. Ond, os yw un genedl yn fwy nag eraill yn dangos teyrngarwch i'r gêm sy'n dynwared nefoedd ar y ddaear, yna gallech chi ddadlau mai Cymru yw honno.
Ers i'r gêm gyrraedd Hen Wlad fy Nhadau yn yr 1850au – pan ddaeth Rowland Williams â hi o Brifysgol Caergrawnt am y tro cyntaf i Goleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan – mae rygbi undeb wedi ei bwytho ei hun yn annatod i ymwybyddiaeth genedlaethol Cymru, gan dreiddio drwy ei chelfyddyd, ei llenyddiaeth, ei cherddoriaeth, ei ffilmiau a hyd yn oed ei chrefyddau.
Yn 1905, cafwyd sylwadau mewn papur newydd yn Seland Newydd am ganu Hen Wlad fy Nhadau cyn gêm ryngwladol ym Mharc yr Arfau Caerdydd – y tro cyntaf i anthem genedlaethol gael ei chanu cyn dechrau gêm mewn digwyddiad chwaraeon unrhyw le yn y byd. Roedd y papur newydd yn cymharu hyn â phrofiad ysbrydol am ei fod wedi dod â theimlad 'lled-grefyddol' i'r gystadleuaeth.
Efallai mai'r atgof am y dyddiau llesmeiriol hynny pan lwyddodd Cymru i guro'r Crysau Duon mawreddog am y tro cyntaf – a ddigwyddodd mewn cyfnod o adnewyddiad crefyddol mawr yng Nghymru – a achosodd i ganeuon fel Cwm Rhondda gyda'r llinell gynhyrfus 'Feed me till I want no more' yn sain gyffredin yn standiau a therasau Caerdydd drwy gydol oes aur yr 1970au. Neu, efallai mai'r rheswm am y canu oedd yr hunaniaeth honno a grëwyd gan gyfuniad o'r pyllau lo, y gweithiau haearn a chapeli'r anghydffurfwyr yn ystod y diwydiannu cyflym a ddigwyddodd o'r 1850au ymlaen.
Mae teilyngdod i'r ddau esboniad. Fel y dywedodd y byd-enwog Carwyn James, hyfforddwr Llanelli a Llewod Prydain ac Iwerddon, 'atgof cenedl yw ei hanes'.
Mae gwaith trawiadol Paine Proffitt, Mae Holl Chwaraewyr Rygbi Cymru'n Mynd i'r Nefoedd yn awgrymu hyn mewn nifer o ffyrdd. Yma, mae'r ffigur canolog sy'n hedfan drwy'r awyr yn y jyrsi goch enwog, y siorts gwyn a'r sanau taclus wedi ei gyflwyno fel ryw hanner duw, yn adlewyrchu'r safle breintiedig sydd ganddo: math o anfarwoldeb haniaethol a roddir i chwaraeon y tu hwnt i'r bedd.
Mae'n awgrymu'r tomenni o barch a roddir i chwaraewyr Cymru am eu medr a'u dewrder ar y cae, drwy ddangos corff cyfareddol yr arwr yn llenwi'r awyr wyngalchog. Mae naws gynnil ond goruwchnaturiol yn y modd y mae'r tro yn ei gluniau yn wahanol i gyfeiriad ei goesau, ac mae ei freichiau sy'n estyn allan yn herio unrhyw awgrym o fwa yn yr asgwrn cefn: symudiadau na allai unrhyw un heblaw gwir athrylith ei wneud – neu efallai mai llaw ddwyfol sydd ar waith yma!
Mae'n fy atgoffa i o ddisgrifiad Dai Smith o'r chwaraewr i Gymru a fedyddiwyd 'Y Brenin' gan y byd rygbi: 'Barry (John) a chwaraeodd mewn dimensiwn o amser a lle oedd yn wahanol i chwaraewyr rygbi eraill' – neu J. P. R. Williams: 'Dduw mawr, roedd hwn yn cerdded ar ddŵr!' Arwydd, os bu un erioed, bod chwaraewyr rygbi rhyngwladol mwyaf llwyddiannus Cymru wedi eu codi i statws tebyg i dduw.
Mae'r ganmoliaeth hon wedi ei hadlewyrchu hefyd yng ngwaith hyfryd Wendy Noel Hymns and Arias. Bydd y teitl, sy'n cymryd ei enw o gân eiconig Max Boyce, yn gyfarwydd i gefnogwyr rygbi Cymru a hefyd i ddilynwyr y gêm drwy'r byd i gyd. Cân yw hon a gafodd ei mabwysiadu, nid yn unig yn standiau a therasau cadeirlannau mawr rygbi rhyngwladol, ond mewn tafarnau a chlybiau cymdeithasol ar draws y wlad, yn enwedig y rhai oedd yn greiddiol i hen faes glo de Cymru. Cafodd ei chyfansoddi ynghanol yr 1970au, ac mae'n fyw hyd heddiw yng nghalonnau ac ar wefusau selogion rygbi Cymru, heb sôn am gefnogwyr Dinas Abertawe!
Gan fynd yn ôl at ddelwedd Proffitt, mae'n bwysig nodi bod ail chwaraewr yno hefyd: ffigur yn gorwedd mewn bedd agored, ei freichiau ynghroes, dyn bydol marwol o'i gymharu â'r ffigur nefolaidd uwch ei ben. Yn bwysig iawn, mae ef hefyd yn gwisgo'r jyrsi goch eiconig. Efallai fod yr artist fod yn awgrymu'r cysylltiad agos, bron yn fytholegol, sydd gan bobl Cymru gyda'r dirwedd – yn enwedig mewn cymunedau mwy gwledig; y ffordd y mae ein cenedl fodern wedi'i siapio gan adnoddau a dynnwyd o'r ddaear; a'r synnwyr y bydd duwiau'r arena chwaraeon hon, a aned yn bobl gyffredin, yn dychwelyd i'r pridd fel pawb arall yn y pen draw.
Fodd bynnag, mae'r rhan greiddiol ohonof sydd ag obsesiwn â rygbi yn hoff hefyd o'r syniad rhamantus mai cynrychioli Cymru ar y cae rygbi yw pinacl cyflawniadau bywyd. Yn y cyd-destun hwn, gallwn ni ddehongli'r gwaith hwn fel breuddwydlun o'r uchelgais y mae sawl plentyn yng Nghymru'n ei gael o wisgo'r jyrsi goch enwog honno go iawn.
Ond, pam mae rygbi'n rhan mor sylfaenol o'r hunaniaeth Gymreig? Mae Cymru'n wahanol i'r mwyafrif o genhedloedd sy'n chwarae rygbi am fod rygbi wedi cael ei groesawu'n gyflym iawn gan bobl o bob cefndir cymdeithasol a galwedigaeth. Mae hyn yn amlwg yn y dillad a wisgir gan y cefnogwyr sy'n llifo i'r cae yng ngwaith Noel. Ar draws y ffin yn Lloegr, gêm y sefydliad oedd rygbi'r undeb i raddau mawr. Roedd yr un peth yn wir yn Iwerddon a'r Alban. Yng Nghymru, llwyddodd rygbi'r undeb i oresgyn dosbarthiadau cymdeithasol a daeth clybiau rygbi'n lleoedd pwysig yng nghalon bywydau eu cymunedau.
Mae'r syniad hwn yn un canolog yn y gwaith Y Gêm Rygbi gan Ronald Herbert John Lawrence. Mae'n amlwg iawn mai'r tirlun yw Heol Sardis, Pontypridd, gyda'i gae hirgrwn, ei byst rhesog du a gwyn, a'i safle gwych wrth y porth i'r Rhondda. Er bod rygbi yng Nghymru wedi cipio dychymyg pobl o wahanol gefndiroedd cymdeithasol, fel llwythi Prydain yr henfyd, datblygodd y cymunedau lleol hyn eu hunaniaethau amlwg eu hunain.
I mi, mae gwaith Lawrence yn cofnodi hanfod bywyd y dosbarth gweithiol yn hen faes glo de Cymru: sut roedd y dirwedd wedi siapio'r dref; ei thai mewn terasau oedd yn olwg mor nodweddiadol; arwydd o'i hanes gwledig yn ei gwyrddni toreithiog.
Ond yn fwy na dim, mae'n cofnodi poblogrwydd rygbi. Mae'r standiau a'r terasau'n orlawn â chefnogwyr. Sylwch ar y ffigurau yn dringo'r wal allanol i gael cipolwg neu i gael mynediad am ddim: golwg a gofiaf yn dda o wylio fy nghwb cartref, Maesteg, pan oeddwn yn tyfu yn yr 1980au. Roedd hon yn adeg pan deimlai fel petai cymuned gyfan yn mynd i gêm gartref bob yn ail Ddydd Sadwrn – cyfnod pan oedd gan bob tref dduwiau lleol, p'un a aethon nhw ymlaen i chwarae i'r tîm cenedlaethol ai peidio.
Rydym yn gweld golygfeydd tebyg yng ngwaith Gareth Davies, Y Clwb Rygbi. Ym Mharc y Strade, sydd o dan ei sang, mae Colin Stephens yn neidio mewn gorfolaeth wrth i Ieuan Evans sgorio cais yn 1992 yn erbyn pencampwyr y byd ar y pryd, Awstralia: cyfnod pan oedd rygbi clybiau Cymru'n dal i ennyn eiddigedd y byd am y torfeydd yr oedd yn eu denu. Mae gwaith Davies yn tynnu sylw at amlygrwydd yr iaith Gymraeg, elfen o hunaniaeth Gymreig a niweidiwyd yn y de-ddwyrain gan ddiwydiannu cyflym, ond a arhosodd yn gadarn ymhellach i'r gorllewin
Gellir dadlau bod yr amrywiaeth ieithyddol hon wedi dod yn hynodrwydd diwylliannol allweddol oedd yn tanio gwrthdrawiadau llwythol yng ngemau'r clybiau, oedd yn hynod o amlwg pan gyfarfu'r dwyrain â'r gorllewin. Hyd yn oed heddiw, mae iaith yn tanategu gwahaniaeth diwylliannol a daearyddol sy'n gwahanu Llanymddyfri oddi wrth Llanilltud Fawr a Cwins Caerfyrddin oddi wrth Cwins Caerdydd. Ac yn y gêm broffesiynol, mae'r Gymraeg yn parhau'n rhan integrol o hunaniaeth y Sgarlets. Yn eu blynyddoedd cynnar, mabwysiadodd y rhain yr anthem Gymraeg fwyaf heriol ohonynt oll, Yma o Hyd gan Dafydd Iwan, flynyddoedd lawer cyn iddi ddod yn gysylltiedig â phêl-droed Cymru.
Mae Sosban Fach E. R. M. Williams – sydd wedi ei seilio ar y gân werin Gymraeg sy'n gysylltiedig â chlwb rygbi Llanelli – hefyd yn cyfeirio at amlygrwydd ffordd fwy amaethyddol o fyw i'r gorllewin o Aber Llwchwr. Ac eto, mae'n dal i roi diwydiannu a'r arwr mewn coch o fyd y bêl wrth galon ei stori. A dyna stori yw honno: stori am gynhyrchu tunplat (y sosbenni) a'r buddugoliaethau dros y Crysau Duon!
Efallai y dylai Gareth Edwards gael y gair olaf. Fel Phil Bennett yn ei annwyl Felinfoel, Ray Gravell yn Llanelli, Billy Boston ym Mae Teigr a Max Boyce yng Nglyn-nedd, mae Gareth – y mewnwr chwedlonol – wedi ei anfarwoli mewn cerflun, ac mae ei ddelw i'w gweld yng nghalon ardal siopa Caerdydd.
Yn ei ragair i The Wales Rugby Miscellany, ysgrifennodd Edwards 'Mae rygbi yn rhan o DNA Cymry ar draws y byd. Mae wrth galon ein hanfod ni, yn ein diffinio ni fel unigolion ac fel cenedl.'
A gadewch i ni wynebu'r peth, ni fyddai unrhyw dduw yn gwrthod mynediad i'r dyn mawr hwn wrth byrth y nefoedd. Ac os bydden nhw'n gwneud hynny, does dim amheuaeth gen i y byddai'n neidio'r wal i gyfareddu'r dorf!
Leigh Manley, ysgrifennwr, bardd a hyrwyddwr creadigol
Cefnogwyd y cynnwys hwn gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru