Pan symudais i Gymru ro'n i'n hiraethu am fy nghartre, a'r hiraeth hwnnw ar ei waethaf dros gyfnod y Nadolig. Yn Trinidad a Tobago, ry'n ni wedi cadw traddodiad cerddorol Sbaeneg ei iaith – y parang – sy'n mynd o dŷ i dŷ dros gyfnod y Nadolig. Mae'r parangderos yn diddanu trwy ganu a dawnsio, ac yn cael croeso cynnes yn y cartrefi gyda gwledd o fwyd a diod. Mewn lleoliadau cyfagos, gwelwn Junkanoo, Masquerade neu Wanaragua. Mae'r masquerades lliwgar hyn, gyda'u cerddoriaeth a'u dawnsio, yn fynegiant o ddathlu, ailddychmygu, gwrthsafiad, a chof.
Dywedodd Peter Minshall, y cynllunydd Carnifal Trinbagoaidd, fod y carnifal yn rhywbeth byd-eang – bod gan bob cymdeithas yr angen i ddathlu bywyd. Byddwn i'n ychwanegu bod y masquerade – fel perfformiad a defod arwyddocaeol o fasgio ac addurno, gyda cherddoriaeth a dawnsio cymunedol – hefyd yn gysylltiedig â'r angen hwn i ddathlu bywyd.
Yn Trinidad a Tobago, mae ein traddodiad o gynnal Carnifal yn digwydd o fewn y calendr y Grawys – deugain niwrnod cyn y Pasg. Mae ein Carnifal wedi ei wreiddio mewn rhyddfraint, ac mae rhai o'n cymeriadau'n rhannu'r un elfennau o estheteg gweledol â chymeriadau Junkanoo cyfnod y Nadolig. Yn ystod fy mlynyddoedd cyntaf yng Nghymru, doeddwn i ddim yn ymwybodol o'r cysylltiadau esthetig rhwng y Fari Lwyd a chymeriad 'Pen Ceffyl' (HorseHead) y Junkanoo o Jamaica.
Traddodiad Cymreig yn perthyn i gyfnod y Nadolig yw'r Fari Lwyd; mae'r prif gymeriad yn gwisgo cynfas wen wedi ei haddurno â rhubanau, a phenglog ceffyl wedi ei osod ar ben y cyfan. Mae'r criw weithiau'n cynnwys cymeriadau megis Pwnsh a Siwan, y Sarsiant, a'r Merrymen. Yr hyn a'm denodd i at y Fari Lwyd oedd fy mod wedi adnabod ynddi rhyw ffurf werinol oedd yn rhannu'r un iaith, yn cynnwys cof, trawsnewid a llawenydd cymunedol.
View this post on Instagram
Yn ystod fy mlynyddoedd cyntaf yng Nghymru, cynhelid Carnifal Caribîaidd ei naws yn ninas Caerdydd. Ar y pryd roedd Carnifal Tre-biwt, y digwyddiad cynhenid, ar seibiant. Er mor wych oedd Carnifal Caerdydd, ni allwn beidio â meddwl am draddodiadau Cymreig eraill o fasgio, sydd wedi eu gwreiddio'n ddwfn mewn hanes ac yn y tirlun. Mae cefnogwyr rygbi ar ddiwrnod gêm fel petaen nhw'n cynnig cipolwg o ryw ysbryd dathliadol trawsffurfiol, torfol, ro'n i'n ceisio cysylltu ag e. Roedd dod ar draws y Fari Lwyd yn cynnig persbectif gwahanol.
Wrth eistedd mewn tafarn gyda'i ffrindiau ar noson oer, wlyb o aeaf bron i ugain mlynedd yn ôl, rhannodd fy ngŵr ar y pryd fideo o gyfarfyddiad a gafodd gyda'r Fari Lwyd. Mae gen i gof clir o'r cyffro a'r cynhesrwydd a deimlais wrth gael fy mhrofiad cyntaf o'r canu cymunedol a'r gwisgoedd masquerade.
View this post on Instagram
Fel arfer bydd criw'r Fari Lwyd yn 'pwnco', sef canu penillion byrfyryr yn Gymraeg ar drothwy'r dafarn neu'r tŷ, gan ofyn am ganiatâd i ddod i mewn. Ar y dechrau, cânt eu rhwystro ac yna, wrth i'r penillion fynd yn eu blaenau, caiff y Fari Lwyd a'i chriw wahoddiad i ddod i mewn. A dyna lle mae'r hwyl yn dechrau, gyda dawnsio a sŵn aflafar, a'r gwesteion yn cael cynnig bwyd a diod. Mae perfformiad y Fari Lwyd yn gysylltiedig â bendithio'r cartref a dymuno am flwyddyn ffrwythlon i ddod.
Mae cymeriad y ceffyl-hobi yn gyffredin mewn masquerades. Mae'r syniad o 'fod yn anifail' a gwisgo rhannau o gorff anifail, yn berfformiad shamanaidd cyfarwydd, sydd yn gysylltedig â nodweddion egnïol yr anifail – nerth, amddiffynfa, ystwythder, ac yn y blaen. Mae ceffylau'n tueddu i gynrychioli dewrder, ieuenctid a rhyddid.
Yn Sierra Leone, gwelwn y masquerades Odelay seciwlar sydd wedi dod dan ddylanwad cymdeithasau cysegredig yr heliwr. Mae amlygiadau gweledol o'r Odelay yma yn cynnwys gwisgo penglog ceffyl (neu ben unrhyw anifail sy'n cael ei hela). Ar brydiau, fersiwn wedi ei gerfio fydd y pen, yn hytrach na phenglog go iawn. Bydd y cymeriad wedi ei lapio mewn gŵn neu ddefnyddiau lliwgar wedi eu haddurno â chregyn a dail palmwydd, ac yn cario ysgub wedi ei wneud o gynffon ceffyl neu fuwch.
Yn Jamaica, mae gwahanol blwyfi'n adnabyddus am eu gwahanol gymeriadau. Mae prif gymeriadau'r Jonkannu yn cynnwys Pen Buwch (sy'n chwifio cyrn buwch), Pitchy Patchy (dawnsiwr wedi ei orchuddio â stribedi o ddefnydd lliwgar), Pen Ceffyl, cymeriad Diafolaidd, Menyw y Bola (gyda nodweddion bola beichiog neu or-chwyddedig) a'r Brenin a'r Frenhines, Y Plismon, Jack-in-the-Green, yr Indiad Gwyllt, a'r Priodfab a'r Briodferch.
Mae'n debygol fod y Jonkannu wedi ei gyflwyno i ynysoedd Jamaica gan ddilynwyr 'John Canoe', y pennaeth Akaidd, a gipiwyd yn garcharorion rhyfel a'u cadw'n gaeth ar yr ynys. Roedd y weithred a enwid yn Jonkannu-ing yn gysylltiedig â choffadwriaeth a gwrthsafiad y caethweision. Mae'n debyg taw Kenu, y ffurf Akaidd, oedd enw'r pennaeth, a hwnnw wedi ei newid gan y Prydeinwyr i John Canoe. Masnachwr pwerus yn yr Arfordir Aur oedd John Canoe, a bu'n amddiffyn ei diroedd rhag goresgynwyr Ewropeaidd am gyfnod o 20 mlynedd.
Yn ôl Edward Long, perchennog planhigfa yn Jamaica yn y ddeunawfed ganrif, mae'r Jonkannu masquerade yn cynnwys motiffau tebyg i rai'r Akan, gyda chleddyfwr yr Ashanti yn ymdebygu i wisg y Pen Buwch, a'r cadlywydd Ashantaidd yn debyg i'r Pitchy Patchy.
Er bod y Pen Ceffyl o Jamaica yn syndod o debyg i'r Fari Lwyd, mae cysylltiadau amlwg rhwng y cymeriad a Gorllewin Affrica. Gwyddom fod Prydain wedi gwladychu Jamaica o 1655 hyd 1962. Rydym hefyd yn ymwybodol o'r ffaith fod Prydeinwyr o'r dosbarth gweithiol wedi gwasanaethu yno – o fewn y gyfundrefn dreisgar, greulon – fel clercod a goruchwylwyr. Mae tystiolaeth ar gael hyd heddiw o draddodiadau gwerin Prydeinig, megis y dramâu mumming a dawnsiau'r Fedwen Fai, yn Jamaica. Tybed a allai'r Fari Lwyd hefyd fod wedi dawnsio yn Jamaica?
Yng Nghymru, mae'r Fari Lwyd yn gysylltiedig â chysyniadau sy'n ymwneud â gwrthsafiad, hunaniaeth Gymreig a llawenydd – a hynny drwy gyfrwng gwarchodaeth yr iaith a thraddodiadau gwerinol. Fel arfer, caiff y penglog ceffyl ei gladdu a'i 'aileni' y flwyddyn ganlynol. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r Fari Lwyd wedi dod yn fwyfwy poblogaidd. I mi, mae'r perfformiadau gwerin hyn o fasgio, dawnsio a chanu yn ffyrdd o gofio defodau.
Rwy'n ystyried bod masgio neu gwisgo mwgwd yn debyg i borth – ffordd o ganiatáu mynediad at rywbeth 'arall'. Mae'n bosib fod rôl wreiddiol y Fari Lwyd, sef bendithio'r cartref, yn llai amlwg mewn portreadau cyfoes. Fodd bynnag, mae potensial o hyd gan yr ystumiau prancio bywiog, y pwnco chwareus, a'r llawenydd cymunedol sy'n cwmpasu'r ddefod, i alw ar deimladau cysegredig y gorffennol.
Drwy gyfrwng y Fari Lwyd, câi fy hiraeth ei leddfu dros dro gan y traddodiad cyfarwydd o fasgio, a llawenydd gwerinol a chymunedol. Yn debyg iawn i stori'r Carnifal yn Trinidad, mae'r Junkanno a'r Fari Lwyd yn fynegiant o gyfarfyddiadau, cadwraethau diwylliannol, ac anrhydeddu traddodiadau.
Rwyf wedi cael fy nghyfareddu ar hyd fy oes gan draddodiadau'r Nadolig, y masquerades a'r carnifalau. Wrth dyfu lan yn Trinidad, a dod dan ddylanwad y Carnifal, datblygais werthfawrogiad o allu'r gwyliau gwerin, y carnifalau a'r masquerades, i feithrin ac adeiladu hunaniaeth gymunedol drwy berfformiadau cyhoeddus o ddathliadau sy'n defnyddio mygydau, cerddoriaeth a symudiadau.
I mi, mae arwyddocâd esthetig perfformio'r Fari Lwyd yn gorwedd o fewn y modd y mae'r traddodiadau gwerin hyn o drawsnewidiad yn adennill llawenydd ar y cyd, a chysylltu pobl â diwylliant – gan gadarnhau'r angen i gynnal y masquerade fel ffordd o ddathlu bywyd mewn byd sy'n gynyddol begynol.
Adéọlá Dewis, artist ac ymchwilydd
Gyda diolch arbennig i'r rhai a gyfwelwyd: Paul Anaman, Honor Ford-Smith, Tutie Haffner, Rhiannon Ifans, Marie Kellier, Peter Minshall ac Alexander Tetteh Quaynor
Cefnogwyd y cynnwys hwn gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru
Cyfiethiad o'r Saesneg
Darllenwch fwy o straeon yn y Gymraeg
Darllen pellach
John Nunley and Judith Bettelheim, Caribbean Festival Arts: Each and Every Bit of Difference, University of Washington Press, 1988
Rhiannon Ifans, Stars and Ribbons: Winter Wassailing in Wales, University of Wales Press, 2022