Mae paentiadau Stephe Meyler yn orlawn â mynegiadau cynnil o'r cwiar, ac o archwilio syniadau o wrywdod mewn sefyllfaoedd cymdeithasol, gwleidyddol a golygfeydd o frwydrau. Cafodd ei gwaith ei ysbrydoli gan gyfnod Napoleon, yn ogystal â digwyddiadau gwleidyddol a hanesyddol, ac mae ei phaentiadau'n bodoli y tu hwnt i'r deuaidd, yn aml yn darlunio gwleidyddiaeth sy'n dieithrio pobl, neu ddadbersonoli'r unigolyn mewn cymdeithas fiwrocrataidd. Des i ar draws gwaith Stephe pan oeddwn i'n gwneud ymchwil ar gyfer erthygl i Art UK am baentiadau o Lanelli, ac ers hynny rwyf wedi dechrau gohebu â'r artist.
The Riots of 1911, a Reconstruction of the Event
1970s/1980s
Stephe Meyler (b.1956)
Joshua Jones: Un peth rwy'n ei hoffi am eich gwaith yw eich bod yn gwneud y gwleidyddol yn bersonol. Dyma'r hyn a welwch chi ar y wyneb – a dyma'r mynegiant personol, yr is-destun. Allwch chi ddweud wrthyf am eich paentiadau sydd ar Art UK?
Stephe Meyler: Gofynnwyd i mi beintio rhywbeth ar gyfer clawr llyfr, Remembrance of a Riot gan John Edwards, ac wedi hynny helpiais i ddylunio'r clawr. Gwnes i rai darnau o waith am Derfysgoedd Llanelli yn 1911 – roedd un wedi ei gomisiynu gan Bwyllgor Rheilffyrdd Llanelli. Hefyd gwnes i waith ar baentiad olew mwy o faint am y dioddefwyr diniwed – John 'Jac' John a Leonard Worstell – a gafodd eu saethu'n farw yn eu gerddi.
Roeddwn i'n arfer bod yn rhan o'r Blaid Lafur fel sosialydd ifanc. Roedd fy sosialaeth i'n tueddu bod braidd yn filwriaethus! A bwydodd hynny fy niddordeb mewn paentio'r math hwnnw o beth, ond nid cymaint y dyddiau hyn.
Dechreuodd Tirlun Diwydiannol fel astudiaeth ar gyfer paentiad mwy o faint. Mae'r tirlun wedi'i seilio ar ddiwydiant o amgylch Llanelli, ond mae'n symbolaidd hefyd. Roeddwn i eisiau iddo fod yn gyfarwydd ac yn anghyfarwydd ar yr un pryd: anodd ei leoli. Gallai fod yn unrhyw le. Dydw i ddim yn gwneud cynifer o dirluniau erbyn hyn. Rwy'n tueddu i weithio'n fwy ffigurol.
Yn Mynd Allan i Fwyta, roedd gen i ddiddordeb mewn paentio sut beth yw cael eich gweld. Yn fy ngwaith i rwy'n archwilio'r gwahaniaeth rhwng bod yn weladwy, a dim ond bodoli – bod yn un peth ond ymddangos fel rhywbeth arall. Sôn am hynny mae'r paentiad Mynd Allan i Fwyta – cael eich gwylio, cael eich gweld fel rhywun ffyniannus a chael amser da – ond mae hefyd yn ymwneud â'r bobl sydd yn eich cwmni, bod yn normal a theimlo'n iawn.
Joshua: Rydw i'n hoffi'r ffaith bod y gwaith yn ein gosod ni – y gwyliwr – mewn safbwynt rhywun sy'n dychwelyd i'w sedd wrth y bwrdd…
Stephe: Ie mae hynny'n gywir. A does neb yn edrych ar ei gilydd.
Un o'r prif bryderon o dan Thatcher oedd dadbersonoli'r unigolyn, yn enwedig y gweithiwr. Roeddwn i'n ymwneud mwy â gwleidyddiaeth yn fy ieuenctid, ond mae hyn yn dal i achosi pryder i mi. Mae'n dal i fod yn berthnasol heddiw. Mae gen i ddiddordeb mewn cyflyrau amwys, a syniadau sydd yn y canol – rhwng dau beth.
Joshua: Mae synnwyr o niwtraliaeth yn eich gwaith chi hefyd – mae hyn ei hun yn fath o ddadbersonoli. Mae'r syniad o'rsbeciwr – y voyeur – yn y gwaith, yn enwedig y syniad o'r sbeciwr cwiar, yn ddiddorol iawn. Roeddech yn dweud eich bod yn ysgrifennu barddoniaeth hefyd – allwch chi ddweud mwy am hynny?
Stephe: Rydw i wedi ysgrifennu llawer o gerddi – rwy'n ysgrifennu popeth i lawr, fel dyddiadur barddoniaeth. Mae gen i ofn crybwyll rhai pethau o hyd, ac o agor fy hun i niwed. Rydw i'n meddwl fod bod yn berson cwiar, person traws, yn golygu fod pobl yn edrych arnoch chi o hyd.
Collais ffrind o Lanelli yn Rhyfel y Falklands, felly ysgrifennais gerdd amdano fo. Amddiffynnodd fi yn yr ysgol un tro. Ef oedd fy Hercules. Roedd bachgen yn yr ysgol wedi gofyn i mi 'Are you bent?', ac roeddwn i'n meddwl mai ystyr y gair hwnnw oedd unigolyn anghyffredin, ecsentrig. Felly dywedais fy mod. Wrth gwrs, sôn am fod yn hoyw oedd y bachgen. Dywedodd y byddai'n well ganddo gymryd ei fywyd na chyfaddef hynny. Doedd y plant eraill ddim yn fy hoffi ryw lawer – ac roedden nhw'n fy hoffi lai fyth ar ôl hynny! Roedd fy ffrind yno'n gefn i mi drwy'r cyfnod hwnnw i gyd.
Welsh National Falklands Memorial
2007 or before
unknown artist
Joshua: Sut brofiad oedd tyfu i fyny yn Llanelli, fel person creadigol a chwiar?
Stephe: Doedd hi ddim yn hawdd – doeddech chi ddim yn gallu bod 'allan' mewn gwirionedd. Roeddwn yn arfer edmygu pobl oedd wedi dod allan, ond allwn i ddim gwneud hynny. Doedd Llanelli ddim yn teimlo fel lle diogel iawn i fod allan. Hyd yn oed fel plentyn roeddwn i'n tueddu i deimlo fel merch. Pan oeddwn i'n fy arddegau ceisiais gael cariadon – roeddwn i'n teimlo y gallwn uniaethu â nhw, ac efallai mod i'n allanoli fy nymuniad am agweddau benywaidd arnyn nhw. Ond doedd hynny ddim yn gweithio. Rydw i'n archwilio rhywioldeb yn fy ngwaith, mae yno, o dan yr haenau mwy amlwg efallai.
Pan es i goleg celf yng Nghaerfyrddin, sylwodd y prifathro bod gen i ddiddordeb mewn gwisgoedd Napoleonaidd a dywedodd 'mae'n ymddangos bod gen ti ddiddordeb mewn gwisgoedd, hoffet ti astudio ffasiwn?'. Roeddwn i'n meddwl y gallai hynny fod yn ddiddorol. Ond yna meddyliais, dim ffiars! Nid yn Llanelli. Gwnes gwrs cyn-sylfaen yno mewn celfyddyd gain, yna gwrs celfyddyd gain mewn pensaernïaeth, ac yna es ymlaen i astudio yn Epsom. Roedd yr artist Wyn Owens wedi astudio yno hefyd. Roeddwn i wedi gobeithio y gallwn i fod yn fwy agored ac allan, yn enwedig ar ôl mynd i Gaerfyrddin, ond roeddwn i'n dal i deimlo na allwn i.
Joshua: Dywedwch wrthyf am eich camau cynnar i mewn i gelf – beth oeddech chi'n ei wneud? Beth oedd rhai o'r pethau cynnar oedd yn ysbrydoliaeth i chi?
Stephe: Roedd fy nghyfaill Nigel yn mwynhau tynnu lluniau. Bydden ni'n sgriblan gyda beiros yng nghefn y dosbarth. Rydw i'n cofio tynnu lluniau o frwydrau yn aml iawn. Roedd gen i ddiddordeb yn hanes cyfnod Napoleon. Y gwisgoedd, y plu, a'r gwregysau. Dramatig iawn – Rhamantwyr Ifanc cyn y 'Young Romatics'! Efallai fod teimlad o or-gyfaddawdu neu allanoli fy hunaniaeth drwy wneud hynny, fy niddordeb yn y ffigurau a bydoedd tra-wrywaidd hyn, ond roedd hefyd y trowsus tynn a'r esgidiau uchel gyda'r taselau, y cleddyfau mawr. Mae gwaith Jacques-Louis David Napoleon yn Croesi'r Alpau yn esiampl dda o'r hyn yr oedd gen i ddiddordeb ynddo. A'r ffilm sy'n serennu Marlon Brando.
The Departure of Napoleon for Elba
Horace Vernet (1789–1863) (after)
Napoleon crossing the Alps
1805, olew ar gynfas gan Jacques-Louis David (1748–1825)
Joshua: Mae deuoliaeth rhwng elfennau hynod wrywaidd y lleoliad a'r elfennau hynod hoyw: y gwisgoedd a'r cyhyrau. Mae cymaint o hynny mewn celfyddyd hoyw – Tom o'r Ffindir, er enghraifft. Oedd hi'n haws i chi fynegi eich hun fel rhywun cwiar yn Epsom?
Stephe: Roeddwn i'n gobeithio y byddwn i'n gwneud hynny, ond wnes i ddim. Roedd Dirprwy Bennaeth yr ysgol Celfyddyd Gain yn dod o gefndir milwrol ac nid oedd yn gefnogol iawn o bobl cwiar. Roedd digonedd o fyfyrwyr hoyw ond doeddwn i ddim yn teimlo y gallwn i gael fy ngweld gyda nhw. Roedd gen i fyd bach cyfrinachol y byddwn i'n ei fynegi mewn gwisgoedd a'r math hynny o beth. Cymerais ran mewn cystadleuaeth drag yn Undeb Myfyrwyr Caerfyrddin gyda rhai o'm ffrindiau unwaith neu ddwywaith. Roedd yn wych. Fy llysenw oedd Nap – ar ôl Napoleon. Wnes i ddim ennill – doedd fy nghyflwyniad a'm gwisg ddim cystal â rhai o'r cystadleuwyr eraill. Pleidleisiodd bawb dros y cwîn oedd gyda'i bronnau'n fflachio! Aethon ni i'r tafarndai cyn y gystadleuaeth ac roeddwn i'n mwynhau hynny, ac yn mwynhau sut roeddwn i'n edrych.
Joshua: Beth wnaethoch chi ar ôl hynny?
Stephe: Roeddwn i'n byw yn Epsom am ychydig ac roeddwn i'n dal i beintio. Roeddwn i'n gwneud ychydig o addysgu ar yr ochr. Gwnes gais am le mewn un neu ddwy o ysgolion fel yr Academi Frenhinol ond heb lwyddiant. Arddangosais yn Sioe Haf RBA un flwyddyn.
Pan ddes i yn ôl i Lanelli, roedd fy ffrind Gareth a rhai o'n cyn-diwtoriaid yn yr ysgol yng Nghaerfyrddin wedi ffurfio cangen o'r Gymdeithas Artistiaid a Dylunwyr yng Nghymru. Roedd gennym stiwdio wrth yr afon oedd yn arfer bod yn garej. Cawsom arddangosfeydd o'r enw 'Pieces of Eight' a 'Who Carmarthen' a dangoswyd ein gwaith yng nghangen AADW yn Abertawe hefyd.
Roeddwn i'n mwynhau peintio – yn enwedig lluniau o ddynion ifanc golygus! Roeddwn i'n peintio terfysgoedd – roedd llawer ohonyn nhw yn yr 80au. Roeddwn i'n rhan o streiciau'r glowyr, ar y llinell biced. Yng Nglofa Cynheidre roedd yr heddlu'n ceisio gwahanu a goresgyn y dyrfa. Cawsom ein gwthio ganddyn nhw, ac roeddem ni'n eu gwthio nhw'n ôl. Mae wedi bod yn 40 mlynedd erbyn hyn. Roeddwn i'n rhan o'r mudiad Lesbiaid a Hoywon yn Cefnogi'r Glowyr. Dylwn fod wedi cael rhan yn y ffilm, Pride!
Lesbians and Gays Support the Miners
2014, banner created for the film 'Pride'
Cafodd rhai darnau o waith eu harddangos yng Nghanolfan Hoywon a Lesbiaid Llundain, wedi i streic y glowyr ddod i ben, ac roeddwn i'n rhan o'r arddangosfa 'Return to Beauty; Figuration in British Art' yn Oriel Roy Miles yn 1994. Cafodd fy ngwaith ei hongian gerllaw gwaith y Tywysog Charles! Cefais amrywiol arddangosfeydd yn y cyfamser, yng Nghymru a thu allan i Gymru. Gwnes rai peintiadau am y streic, fel Yn Gynnar Un Bore – sydd yn Neuadd y Glowyr yn Rhydaman rwy'n meddwl – os yw'n dal i fod yno – glöwr yn cael ei guro gan yr heddlu. Gweithiais ar beintiadau eraill am yr heddlu a therfysgoedd. Roeddwn eisiau cadw'r gwaith yn gyffredinol – y syniad o brotest a gormes, ond roedd yn bersonol hefyd. Dechreuais fynd i glybiau nos yn Abertawe, Theatr y Palas. Gwnes rai darnau o waith am y profiadau hynny.
Dydw i ddim wedi arddangos rhyw lawer yn ddiweddar, ond rydw i'n dal i beintio. Peintiais drwy gyfnodau clo'r coronafeirws i gyd, gan ymateb i'r newyddion ar y teledu. Paentiais gyrff cwiar yn y lleoliadau hynny. Paentiais am geiswyr lloches ar gychod. Rydw i wedi paentio golygfeydd yn y rhyfel yn Wcráin a Gaza. Rydw i'n paentio fel petawn i'n ymateb i ddigwyddiadau hanesyddol tra maen nhw'n dal i ddigwydd.
Joshua Jones, awdur
Mae gwaith Stephe yng nghasgliadau Amgueddfa Parc Howard a Neuadd y Sir Caerfyrddin , ac mae'r ddau'n rhan o Gasgliad Gwasanaeth Amgueddfeydd Sir Gaerfyrddin
Cyfiethiad o'r Saesneg
Cefnogwyd y cynnwys hwn gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru