Streic y glowyr yn 1984–1985 oedd un o gyfnodau mwyaf arwyddocaol Prydain o weithredu diwydiannol, ac mae'n parhau i gynnal arwyddocâd gwleidyddol a soniaredd emosiynol sylweddol hyd heddiw. Dechreuodd y streic pan gynigiodd llywodraeth San Steffan gau'r pyllau glo oedd yn colli arian - penderfyniad a fyddai wedi costio amcan o 20,000 o swyddi.

Cwm Colliery

Cwm Colliery 1984

Mike Thompson (active 1984)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Dechreuodd y gweithredu diwydiannol yng ngogledd Lloegr, ond roedd cymunedau glofaol de Cymru'n enwog am lynu'n llym wrth y streic. Roedd Cymru'n fwy dibynnol ar dorri glo am fod gan y genedl ddiweithdra uwch yn barod, ac roedd sawl pentref Cymreig wedi datblygu fel cymunedau un diwydiant. Dyw hi felly'n fawr o syndod fod y diwydiant glo wedi bod yn bwnc cyfoethog i artistiaid yng Nghymru.

Poster: Defend South Wales Miners – No Surrender

Poster: Defend South Wales Miners – No Surrender

National Union of Mineworkers (founded 1945)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

I nodi 40-mlwyddiant y streiciau, rydw i wedi dewis delweddau sy'n dangos sut yr ymatebodd artistiaid gwahanol i fywydau cymunedau glofaol cyn, yn ystod, ac wedi streic 1984–1985. Roedd gennyf ddiddordeb arbennig mewn delweddau sy'n archwilio brawdoliaeth a chymuned – yn ogystal â delweddau sy'n rhoi mewnwelediad i ni ar sut y gwelir gwrywdod y dosbarth gweithiol.

Miners' Strike 1984–1985

Miners' Strike 1984–1985 1985

Dorothea Heath (1929–2012)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Paentiwyd On Strike gan David Lawrence Carpanini o Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa yn 1985. Gallai'r dillad cynnes a'r awyr las wan bortreadu dechrau'r gaeaf neu ddiwedd y gwanwyn – ail hanner y streic. Roedd yr amodau'n argyfyngus i lawer o deuluoedd erbyn diwedd y streic. Mae ystum y dyn sy'n ein wynebu yn bur heriol, fel pe i gyfleu ymdeimlad o wytnwch a erydwyd ac amynedd sy'n dirywio, bron i flwyddyn ers dechrau'r gwrthdaro chwerw.

On Strike

On Strike 1985

David Lawrence Carpanini (b.1946)

Cyfarthfa Castle Museum & Art Gallery

Mae persbectif y paentiad yn uchel ac wedi'i lurgunio, gan roi ymdeimlad o edrych i lawr ar y ffigwr – efallai drwy lens. Pwysleisir yr ymdeimlad yma gan siâp crwn anarferol y cynfas. Mae'n edrych fel pe bai'r olygfa wedi cael ei ddal gan lens llygad pysgodyn, neu gamera diogelwch – neu hyd yn oed drwy dwll sbecian.

Efallai fod y berthynas hon rhwng y gwyliwr a'r gwrthrych yn adlewyrchu'r sylw gelyniaethus a roddwyd i'r streic gan y cyfryngau, a gweld galw arweinwyr y streic yn 'elyn oddi mewn' gan Thatcher. I mi, mae'n awgrymu ymdeimlad o baranoia ynghylch cael eich gwylio. Roedd digon o sail i'r paranoia hwn – fe ddangosodd Memo Armstrong, a anfonwyd at Thatcher ym mis Chwefror 1985, fod MI5 yn cadw golwg ar yr Undeb Glowyr Cenedlaethol.

Saif ffigwr Carpanini'n warchodol o flaen plentyn. Defnyddiodd poster o Gymru oedd yn cefnogi'r glowyr y slogan 'when they close a pit they kill a community'. Gallai'r safiad gwarchodol yn On Strike awgrymu ymdeimlad tebyg, ble mae'r ffigwr yn gweithredu i warchod ei deulu a'i gymuned rhag colli'r cyflogwr lleol mwyaf – a diogelu treftadaeth yr ardal ar gyfer y genhedlaeth nesaf.

Pit Closure, Miners Coming Up

Pit Closure, Miners Coming Up 1977

Nicholas Evans (1907–2004)

Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales

Mae Pit Closure, Miners Coming Up gan Nicholas Evans yn defnyddio persbectif tebyg o ongl uchel – fel pe baem ni ar dir sad a bod y glowyr yn codi i ddod i'n cyfarfod. Mae'r paentiad hwn yn arw ac anghyfannedd. Mae gan y glowyr lygaid crebachlyd ac mae esgyrn eu bochau'n bantiog, wrth i'w bysedd ddal gafael tyn ar y rhaffau. Nid oes gan y ffigurau unigolyddiaeth - mae'u siapau wedi'u brithweithio i greu awgrym o batrwm yn hytrach na charfan o bobl go iawn.

Dechreuodd Evans weithio fel glöwr yn 13 oed, a bu farw'i dad mewn damwain yng Nglofa Fforchaman dair blynedd yn ddiweddarach. O'r manylyn bywgraffyddol hwn, efallai y gallem ddisgwyl gweld Evans yn canolbwyntio ar beryglon y gwaith glo. Serch hynny, dywedodd Evans am y diwydiant glo fod 'y frawdoliaeth, dwi'n meddwl, yn gwrthbwyso popeth'. Paentiwyd y darlun hwn yn 1977, yn fuan wedi streiciau 1972 a 1974. Bu streic 1974 yn llwyddiannus, gan sicrhau gwell cynnig o gyflog, a allai fod wedi cyfrannu at farn gadarnhaol Evans ar frawdoliaeth ac undod.

Miners – Relaxing Pit Top Canteen

Miners – Relaxing Pit Top Canteen

Dennis C. Drew (active late 20th C)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Brawdoliaeth yw thema Miners – Relaxing Pit Top Canteen gan Denis C. Drew, o gasgliad Amgueddfa Cymru. Mae'r glowyr yn y blaendir yn adlewyrchu iaith gorfforol ei gilydd, gyda'u llaw dde a'u bocsys bwyd wedi'u hunioni'n union. Gallaf eu dychmygu'n smocio mewn tawelwch cyfeillgar, gan synfyfyrio wrth iddynt ymlacio. Ymddengys fod y ddau ddyn yn y cefndir wedi ymgolli mewn sgwrs ddofn. Mae un dyn wedi gorffwys ei ben ar ei freichiau i wrando ar sgwrs ei gydweithiwr, sy'n pwyso i mewn ato ac yn pwyso ar ei ddwy benelin.

Mae Drew wedi peintio'r pedwar dyn mewn llinell syth o flaen y ffenestr, a hynny'n cael ei bwysleisio gan siâp y bwrdd a'r llinell ar y wal y tu ôl iddynt. Mae hyn yn creu argraff fod y glowyr yn awyddus i gael seibiannau yn y goleuni, yn saib o weithio dan ddaear. Mae hyn yn ychwanegu ymdeimlad dwysbigol ychwanegol i'r paentiad: unir y dynion gan eu profiad cyfun o wneud swydd heriol.

Paentiodd Drew lowyr yn eu cartrefi hefyd, fel yn achos Miner Bathing in Tin Bath. Byddai menywod mewn cymunedau glofaol yn ysgwyddo gwaith corfforol caled yn y cartref i gefnogi'u teuluoedd, gan gynnwys helpu'u gŵyr i ymolchi a glanhau'u hunain ar ôl gwaith. Cyn cyflwyno baddonau pen-pwll, byddai'n rhaid i wragedd ddelio â thwymo a chludo dŵr, yn ogystal â glanhau llwch y glo. Yn arddangosfa ddiweddar 'Y Cymoedd' yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, dangoswyd peiriant golchi cynnar i ddangos pwysigrwydd y dyfeisiadau arbed llafur hyn i fenywod.

Miner Bathing in Tin Bath

Miner Bathing in Tin Bath

Dennis C. Drew (active late 20th C)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Mae gan Miner Bathing in Tin Bath gymeriadu cynnil sy'n debyg i'r hyn a welir yn Relaxing Pit Top Canteen. Mae'r wraig yn dal y basn â breichiau llac, ymlaciedig, ac mae'i gŵr yn edrych yn fregus ar ei bengliniau o'i blaen, gyda'i war yn agored i bawb ei weld. Mae hi fel pe bai'r gwyliwr wedi tarfu ar ennyd dyner breifat. Er bod y glowyr wrthi'n ymolchi, ymddengys fod y dŵr a'r tywel yn hynod lân! Yn yr un modd, mae'r dynion yn Relaxing Pit Top Canteen yn edrych fel pe na bai'u llafur wedi gadael ei ôl arnynt. Mae hyn, ynghyd â gwedd euraidd y golau yn y ddau lun, yn fy arwain i gasglu fod Drew yn cyfathrebu golwg go rhamantus o fywydau glowyr.

Awgryma'r bath tun, y lamp a'r tegell copr yn y paentiad hwn fod yr olygfa wedi'i lleoli ymhellach yn ôl yn y gorffennol, er gwaetha'r ffaith iddo gael ei baentio tua diwedd yr ugeinfed ganrif. Fel yn On Strike, fe all hyn gyfleu ymdeimlad o falchder yn y dreftadaeth ddiwydiannol – ac awydd i'w gwarchod.

Communal Bathing

Communal Bathing 1974

Jack Crabtree (b.1938)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Dengys Communal Bathing gan Jack Crabtree grŵp o lowyr yn defnyddio'r baddonau pen-pwll. Er i rai dynion ddewis peidio â'u defnyddio, roedd y baddonau pen-pwll yn ddatblygiad o bwys i lowyr a'u teuluoedd. Roedd gallu dod yn lân, yn gynnes a sych cyn mynd adref yn lleihau'r perygl o weld y dynion yn dal niwmonia, bronchitis a chrydcymalau. Drwy osgoi llygrwyr a gwaith codi trwm, roedd menywod hefyd ar eu hennill o'u cyflwyno.

Mae gan Communal Bathing awyrgylch gwahanol i Miner Bathing in Tin Bath. Erys yr ymdeimlad o ymddiriedaeth, wrth i ddynion blygu'n anhunanymwybodol gerbron ei gilydd. Serch hynny, ceir hiwmor slei yma, fel yn achos y glöwr sydd wedi gollwng ei sebon. Awgryma'r cyrff noeth, cyhyrog yn Communal Bathing fod yma is-destun homoerotig. Mae dau ddyn yn helpu'i gilydd i ymolchi wrth i ddyn arall sefyll yn hyderus gan arddangos ffolennau siapus a phidlen go sionc!

Miner Drilling at the Coalface

Miner Drilling at the Coalface 1978

C. Duncan (active 1970–1978)

South Wales Miners' Museum

Mae breichiau cyhyrog a gên luniaidd y glöwr yn Miner Drilling at the Coalface yn dwyn i gof y gwrywdod eithafol a geir yng ngwaith artistiaid cwiar fel Tom of Finland. Cynhyrchodd Tom of Finland waith celf erotig oedd yn darlunio dynion mewn swyddi dosbarth gweithiol fel morwriaeth ac adeiladu, gan ganolbwyntio ar eu lifrai, eu cyrff cyhyrog a'u safiad trahaus. Nid dim ond rhywbeth sy'n perthyn i'r ugeinfed ganrif mo hyn: mae Men at Work: Art and Labour in Victorian Britain gan Tim Barringer yn ymholi beth y gall delweddau ddweud wrthym am wrywdod a llafur, gan archwilio gwaith ffigurau fel Ford Madox Brown a John Ruskin.

Mae Miner Drilling at the Coalface yn rhannu sawl un o'r nodweddion hyn. Mae lleoliad y dril, hyd yn oed, a'r gair 'drilio' yn awgrymu is-destun erotig. Drwy gynnwys offer fel yr helmed, y bocs bwyd metel, a'r Lamp Davy bres – dyfais i achub bywyd sy'n cael ei goleuo'n gariadus gan y dortsh pen – fe'n hatgoffir nad rhyw frenhines gyhyrog sy'n corfflunio mo hwn, ond rhywun sy'n gwneud swydd lafurus.

Poster: Pits and Perverts

Poster: Pits and Perverts 1984

Kevin Franklin

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Roedd Kevin Franklin yn aelod o'r grŵp codi arian Lesbians and Gays Support The Miners (LGSM). Roedd ei boster ef Pits and Perverts yn hysbysebu dawns a gynhaliwyd yn Llundain i godi arian ar gyfer y glowyr. Mae'n dangos glöwr â gên fain a bochgernau amlwg, fel y dyn yn Miner Drilling at the Coalface. Mae'r poster yn ymgysylltu â'r parch chwareus at wrywdod traddodiadol dosbarth gweithiol ymysg y gymuned hoyw, fel y gallech ddisgwyl gan y teitl chwareus!

Banner: LGSM

Banner: LGSM 2013

Leo Anna Thomas (active 2013)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Deil LGSM i ysbrydoli, 40 mlynedd yn ddiweddarach. Anfarwolwyd yr hanes am y gymdeithas rhwng cymunedau ar streic yn ne Cymru ac ymgyrchwyr cwiar yn Llundain yn y ffilm Pride! Ac mae'n rhan allweddol o'm nofel i, Neon Roses. Mae'r enghraifft hon o undod yn bwysig ond un o blith sawl grŵp codi arian oedden nhw. Er enghraifft, cododd temlau Sikh ym Mirmingham £5,000 i gefnogi'r glowyr.

Badge: Lesbians and Gay Men Support the Miners

Badge: Lesbians and Gay Men Support the Miners 1985

Jonathan Blake (b.1949) and W. Reeves & Co. Ltd

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Tyfodd dyluniad Franklin i statws talismon ymysg pobl gwiar a ysbrydolir gan yr hyn a gyflawnodd LGSM. Erbyn hyn, gallwch brynu copïau o boster Franklin, yn ogystal â chrysau-t, bathodynnau a mygiau.

Ond nid dim ond ar gyfer pobl hoyw a lesbiaid y mae hyn. Y tu fas i LGSM a'r gymuned gwiar, mae gwrthrychau eraill a gysylltir â thorri glo a streic y glowyr yn meddu ar ansawdd dalismanaidd debyg. Bu arddangosfeydd 'Y Cymoedd' a 'Streic! 84–85' yn llwyddiant i Amgueddfa Genedlaethol Cymru, ac mae'r siop roddion yn gwerthu digonedd o fathodynnau 'Support the Miners' a chopïau o Lampau Davy.

 
 
 
 
 
View this post on Instagram
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 

A post shared by Art UK (@artukdotorg)

Mae'r teimladau a gorddwyd gan streic y glowyr yn para i fod yn agos at yr wyneb i lawer o bobl. Dysgais innau wrth ymchwilio ar gyfer Neon Roses fod rhai'n ei chael hi'n rhy anodd i siarad am y peth. Ond, fel portread Drew o olygfa hanesyddol rhwng glöwr a'i wraig, yng Nghymru rydyn ni'n dwyn cryfder drwy ymgysylltu â'n gorffennol diwydiannol.

Rachel Dawson, awdur

Cyfieithiad o'r Saesneg

Cefnogwyd y cyfieithiad gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru

Darllenwch fwy o straeon yn y Gymraeg

Darllen Pellach

Amgueddfa Cymru, 'Straeon y Streic', 2024

Rachel Dawson, Neon Roses, Gwasg John Murray, 2024

Hywel Francis, The Fed: History of the South Wales Miners in the Twentieth Century, Gwasg Prifysgol Cymru, 1998

Richard King, Brittle with Relics: A History of Wales, 1962–97, Faber, 2023

People's History Museum, 'Miners' Strike 1974: a victory for workers', 2024

Tim Tate, Pride: The Unlikely Story of the Unsung Heroes of the Miners' Strike, John Blake Publishing, 2017

Ceri Thompson, 'Y Baddondai Pen Pwll', Amgueddfa Cymru