Ar gyfer cyfres Art UK 'Bod yn...' ry'n ni'n cymryd cipolwg ar ddiwrnod ym mywyd person proffesiynol neu wirfoddolwr sy'n gweithio yn sector y celfyddydau, treftadaeth neu amgueddfeydd.
Beth yw eich rôl chi?
Dr Caroline Lloyd ydw i, ac rwy'n Wirfoddolwr Archwilio yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae Gwirfoddolwyr Archwilio yn dod â'r amgueddfa'n fyw i ymwelwyr drwy eu hannog i gyfranogi yn yr hyn sydd ar gael. Ry'n ni'n annog ymwelwyr o bob oed i archwilio, cyffwrdd, a gofyn cwestiynau am eitemau sydd yn yr amgueddfa ac ar y trolïau Archwilio. Ry'n ni hefyd yn helpu pobl i lywio'u ffordd o gwmpas yr amgueddfa, ac yn gwneud ein gorau i fod yn wyneb cyfeillgar sy'n gwneud eu hymweliad yn un cofiadwy!
Dr Caroline Lloyd gyda'r troli Archwilio yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Beth yw eich trefn arferol yn y bore, a'ch taith i'r gwaith?
Fel arfer, rwy'n teithio i'r gwaith ar y trên ac yn dod oddi arno ddwy orsaf yn gynnar er mwyn cynyddu'r nifer o gamau rwy'n eu cerdded mewn diwrnod! Rydw i'n gwirfoddoli am dair awr yn y bore, ac yn cyrraedd cyn i'r drysau agor am 10 o'r gloch. Gan amlaf rydw i'n gwirfoddoli yn yr orielau celf, felly ry'n ni'n casglu'r eitemau fydd yn cael eu harddangos ar y troli celf ac yn gwneud ein ffordd lan i'r oriel; yno, byddwn yn gosod ein hunain yn agos at fyrddau lle gall ymwelwyr ymgysylltu â ni, a thynnu lluniau os byddan nhw'n cael eu hysbrydoli i wneud hynny.
Beth yw bore nodweddiadol i chi fel gwirfoddolwr?
I mi, does mo'r fath beth â bore nodweddiadol. Wrth wirfoddoli yn yr orielau celf, fy hoff beth yw ymgysylltu'r plant â'r eitemau ar y troli; mae'r pren mahl a model clai bob amser yn achosi difyrrwch! Os yw amser yn caniatáu, mae llawer o blant sydd ar dripiau ysgol wrth eu bodd yn eistedd i lawr gyda ni i dynnu lluniau sydd wedyn yn cael eu harddangos ar wal yr oriel. Mae rhai'n cael eu hysbrydoli gan y peintiadau a'r ffotograffau maen nhw'n eu gweld yn cael eu harddangos yn yr amgueddfa, ac eraill yn mwynhau creu eu darlun hwy eu hunain o eich stori / your story. Maen nhw'n mwynhau dangos pwy ydyn nhw, ac o ble maen nhw'n dod, drwy gysylltiadau â'r casgliadau, â Chymru, neu â'r amgueddfa ei hun.
Gweithgaredd 'Eich label...'
Ar y boreau hyn, dyw hi ddim yn anghyffredin gweld plant ysgol yn llenwi'r bwrdd, y fainc a rhywfaint o'r llawr. Mae gwyliau'r ysgol yn bleser pur oherwydd dyw'r plant ddim yn cael eu cyfyngu gan amser, ac felly rydw i'n gallu treulio mwy o amser gyda nhw i holi beth maen nhw'n hoffi'i wneud, o ble maen nhw'n dod, pwy ydyn nhw a beth maen nhw'n ei fwynhau yn yr amgueddfa. Mae'r rhan fwyaf o'r grwpiau ysgol yn dod o wahanol ardaloedd ledled Cymru, ond ry'n ni'n cwrdd ag ymwelwyr o bob rhan o'r byd yn ddyddiol. Yn ffodus iawn, ry'n ni'n cael cyfle ar ddiwrnodau tawel i dreulio amser gyda chynorthwywyr yr amgueddfa; maen nhw'n barod iawn i helpu bob amser, yn llawn ffeithiau diddorol, ac mae ganddyn nhw eu straeon gwych eu hunain i'w hadrodd.
Beth sydd i ginio?
Fel arfer rydw i'n dod â rhywbeth o adref, yn bachu coffi o gaffi'r amgueddfa, ac yn cael sgwrs gydag un o'r Gwirfoddolwyr Archwilio hyfryd sy'n gweithio yn y prynhawn.
Beth yw prynhawn nodweddiadol i chi?
Ar ddiwedd y prynhawn byddaf yn mynd yn ôl i'm swyddfa gartref i ddala lan gyda fy ngwaith 'bob dydd'. Rydw i'n ffodus iawn 'mod i'n gweithio'n llawrydd fel academydd, ymgynghorydd a hyfforddwr, sy'n ei gwneud yn bosib i mi fwynhau treulio amser yn gwirfoddoli yn yr amgueddfa. Mae fy niddordebau ymchwil academaidd yn cynnwys pynciau a arferai gael eu labelu'n 'tabŵ', sef marwolaeth (galar) a rhyw (perthnasoedd ac addysg rhywioledd, ac iechyd atgenhedlol), felly mae fy amser fel gwirfoddolwr yn yr amgueddfa'n ychwanegu rhyw ysgafnder angenrheidiol i'r wythnos, i gydbwyso'r hyn all fod yn waith eitha dwys.
Y troli Archwilio yn orielau celf Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Beth ydych chi wedi'i ddysgu trwy eich rôl?
Trwy wirfoddoli yn yr amgueddfa, rwy'n cael pleser mawr o ddysgu am, a bod yn dyst i, y rôl y gall y celfyddydau ei chwarae wrth ymgysylltu oedolion a phlant, o bob rhan o'r byd, â'n hamgylchedd, ein hanes, a'n tirwedd ddiwylliannol – ac mae hynny'n arbennig o wir gydag arddangosfa 'Y Cymoedd'. Drwy ymgysylltu'n weithredol â phlant ysgol yn ystod eu hymweliadau â'r orielau celf, ry'n ni'n annog y genhedlaeth nesaf i gadw'n treftadaeth ddiwylliannol unigryw yn fyw. Rydw i wrth fy modd yn clywed eu straeon: Dyma ein stori ni. Beth yw eich stori chi?
Dr Caroline Lloyd, carolinelloyd.co.uk
Cyfieithiad o'r Saesneg
Cefnogwyd y cynnwys hwn gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru
Mae gwirfoddolwyr yn gwneud cyfraniad pwysig i Amgueddfa Cymru ac i stori Cymru. Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan, ac yn awyddus i ymuno â ni, ewch i dudalennau Cymryd Rhan ar wefan Amgueddfa Cymru, neu cysylltwch â gwirfoddoli@amgueddfacymru.ac.uk
Ydych chi'n gweithio neu'n gwirfoddoli yn sector y celfyddydau, treftadaeth neu amgueddfeydd? A fyddech chi'n fodlon rhannu enghraifft o ddiwrnod gwaith nodweddiadol ar gyfer ein cyfres 'Bod yn...'? Cysylltwch ag Art UK ar pitches@artuk.org – byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.