Fe gychwynnodd fy niddordeb personol i gydag artist-ffoaduriaid ym Mhrydain yn ystod y 1990au. Yn ystod y cyfnod hwn cwrddais ag artistiaid y newidiwyd eu bywydau o ganlyniad i adnabod Josef Herman a Heinz Koppel, dau artist a ddaeth i gymoedd de Cymru yn ystod y 1940au. Fe ffodd Herman i Wlad Belg er mwyn dianc rhag gormes yr Iddewon a radicaliaid ei famwlad, Gwlad Pwyl, yn y 1930au ac, ar gychwyn y rhyfel, fe ffodd cyn i'r Almaen oresgyn Ffrainc. Fe aeth i'r Alban ac yna'n ddiweddarach i Lundain.
Ym 1944, fe gyrhaeddodd bentref glofaol Ystradgynlais, bron ar hap, ac fe deimlodd gymaint o groeso gan y gymuned, a chysylltiad â'r dirwedd, nes iddo aros am ddeuddeg mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwn, fe lwyddodd ei arddull ffres, fynegiannol i newid argraffiadau'r cyhoedd o'r meysydd glo, ac i ysbrydoli gwaith artistiaid ieuengach.
Fe adawodd Heinz Koppel Berlin a theithio i Prâg ym 1933 ac fe ddaeth i Brydain ym 1938. Fe ddylanwadodd nifer o artistiaid ifanc gyda'i weledigaeth fynegiannol a'i onestrwydd artistig. Fodd bynnag, yn debyg i lawer o fynegiadwyr, dryswyd cynulleidfaoedd ehangach ym Mhrydain gan ei waith – 'Paentiwr gyda Gormod o Syniadau' oedd pennawd un adolygiad ym mhapur newydd y Times. Ar ôl i'w stiwdio yn Llundain gael ei fomio, fe symudodd i Ferthyr Tudful, lle arweiniodd anheddiad addysgol i weithwyr am dros ddegawd. Yn ddiweddarach daeth yn athro dylanwadol yn Lerpwl.
Fe roddodd y ddau artist hyn yr awydd i mi edrych ar yrfaoedd a dylanwad ymfudwyr o gyfnodau eraill. Mae'r arddangosfa a ddilynodd, 'Refuge and Renewal – Migration and British Art', yn Academi Frenhinol Gorllewin Lloegr a MOMA Machynlleth, yn ymestyn yn ôl at Monet a Pissarro ac i fyny at heddiw, ac mae fy llyfr sy'n cyd-fynd â'r arddangosfa yn gwthio'r stori yn ôl at Holbein ac Eworth.
Mae dyfodiad artist-ffoaduriaid wedi dylanwadu ac adnewyddu celfyddyd Prydain ers tro byd. Mae artistiaid sy'n ymfudwyr wedi gwneud cyfraniad drwy eu gwaith, drwy ddysgu a drwy ddylanwad personol. Fodd bynnag, fe gollwyd rhai cyfleoedd hollbwysig am adnewyddiad gan fod yr ymfudwyr yn tueddu i aros am gyfnod byr yn unig, neu gan fod artistiaid Prydeinig heb ymgysylltu â nhw tra'u bod yma.
Mae nifer o artistiaid wedi cyrraedd Prydain fel ffoaduriaid yn dianc rhag rhyfel, erledigaeth ethnig neu ormes deallusol. Bu baentwyr a cherflunwyr Ffrengig ffoi rhag rhyfel ym 1870–1; bu Belgiaid ffoi rhag dinistr y Rhyfel Byd Cyntaf; ac, yn y 1930au, bu artistiaid yn ffoi cyfundrefnau totalitaraidd – yn fwyaf arwyddocaol yn Almaen y Natsïaid. Yn yr 80 mlynedd ddiwethaf mae artistiaid wedi dod i Brydain fel ffoaduriaid o'r bloc Sofietaidd, Tsiena, America Lladin, y Dwyrain Canol a mannau eraill.
Ym 1870, roedd Llundain yn llawn artistiaid o Baris yn sgil Rhyfel Ffranco-Prwsia a'i ddinistr, gan gynnwys Claude Monet a Camille Pissarro. Ar y pryd roeddent yn dal i ddatblygu'r syniadau a fyddai'n ffurfio Argraffiadaeth. Yn Llundain fe ymrwymodd y ddau i baentio yn yr awyr agored ac fe ddarganfyddai'r ddau affinedd â gwaith Constable a Turner.
Roedd Monet wrth ei fodd yn arsylwi'r afon Tafwys ac effeithiau golau arni. Roedd y grŵp o artistiaid Cyn-Raffaelaidd yn parhau i ddominyddu chwaeth Seisnig, ac fe wrthodwyd Monet a Picasso o arddangosfa haf yr Academi Frenhinol. Dywedodd Monet y byddai wedi aros yn Llundain petai ei ddeliwr, Paul Durand-Ruel, (a oedd hefyd wedi ffoi i Loegr) heb werthu rhai o'i baentiadau. Fe anwybyddwyd y ddau gan y mwyafrif o artistiaid Prydain, ac ni theimlwyd ddylanwad yr Argraffiadwyr tan yn hir wedi i'r ddau adael y wlad, wrth i Durand-Ruel osod gwreiddiau'n araf deg i sicrhau dylanwad celfyddyd Paris ar gelfyddyd Prydain am genedlaethau i ddod.
Roedd Pissarro wedi ffoi o'i gartref yn Louveciennes gan ei fod yn agos i ymladd y rhyfel Ffranco-Prwsia. Aeth a'i deulu i Lydaw ac yna ymlaen i Lundain. Fe ddinistriwyd oddeutu 1,500 o baentiadau a adawodd ar ôl, gan ddileu'r cofnod o'i waith cyn iddo droi'n 40 oed bron yn llwyr.
Mae paentiad Pissarro o werinwyr Ffrengig yn cludo'u heiddo ar eu cefnau wrth gerdded drwy'r eira yn adlewyrchu anobaith llwyr y ffoadur, er iddo orffen y paentiad ym 1879, ymhell ar ôl iddo ddychwelyd adref.
Fe arhosodd rai artistiaid Ffrengig yn hirach, yn enwedig y rheiny a fu'n gysylltiedig â llywodraeth chwyldroadol Comiwn Paris. Fe ddaeth y cerflunydd Jules Dalou yn ffoadur gwleidyddol ym 1871. Fe aeth â'r llywodraeth ag ef i'r llys, heb iddo fod yn bresennol, ac fe'i dedfrydwyd i oes yn y carchar. Fodd bynnag, yn Llundain fe'i penodwyd yn Athro yn Ysgol Gelf De Kensington ac fe'i comisiynwyd gan y Frenhines Fictoria. Roedd ei waith yn enghraifft dda o naturoliaeth lyfn yr oedd wedi'i ddatblygu gyda'i ffrind Rodin ers pan oedd y ddau yn eu harddegau. Dychwelodd i Baris yn dilyn amnest 1879 ond fe barhaodd ei ddylanwad ar y mudiad Cerflunwaith Newydd ym Mhrydain ymhell i'r ganrif nesaf.
Pan gyrhaeddodd 250,000 o ddinasyddion Gwlad Belg yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, dyma oedd y symudiad mwyaf o ffoaduriaid yn hanes Prydain. Roedd oddeutu 60 o artistiaid yn eu plith, gan gynnwys artistiaid Symbolaidd megis y cerflunydd George Minne a'r paentwyr Constant Permeke a Valerius de Saedeleer. Fe roddodd noddwyr Prydeinig gartrefi i nifer o'r artistiaid. Fodd bynnag, fe deimlai'r rhan fwyaf ohonynt yn ynysig, ac ymhen amser, fe aethant yn ôl i Wlad Belg a pharhau â'u bywydau yno. Fe gollwyd cyfle i artistiaid Prydeinig ymgysylltu â nhw.
Fe ddaeth y teulu Davies o hyd i dŷ ger Aberystwyth ar gyfer y paentiwr Symbolaidd Valerius de Saedeleer a'i wraig, eu pum merch a'i dad a oedd yn 90 oed. Roedd paentiadau dramatig, arddulliedig De Saedeleer yn ymddangos yn ddieithr i'r rheiny oedd wedi arfer â thraddodiad tirluniau Prydeinig. Ychydig o artistiaid eraill a gwrddai yn ystod ei arhosiad estynedig. Fe gyfnewidiodd baentiadau i dalu am nwyddau a chafodd gryn lwyddiant masnachol gydag arddangosfa yn Aberystwyth, er i adolygiad yn y papur lleol rybuddio: 'mae ganddo lygad person cyntefig'. Pan ddychwelodd i Wlad Belg ym 1921 fe alwodd ei dŷ newydd yn 'Tynlon' ar ôl ei gartref yng Nghymru yn ystod y rhyfel.
Constant Permeke oedd yr eithriad ymhlith yr alltudion o Wlad Belg. Aeth ati i ddatblygu enw da hir barhaol ym Mhrydain, er bod hyn i ran helaeth o ganlyniad i'w ddylanwad ar ddatblygiad o fynegiadaeth Felgaidd ar ôl y rhyfel. Ymunodd Permeke â'r fyddin Felgaidd pan orchfygwyd y wlad, ac fe gafodd anaf difrifol. Fe'i hanfonwyd i Folkestone ac, pan yr adunwyd â'i wraig fe symudodd y cwpl i Wiltshire ac yna i Ddyfnaint, lle baentiodd dirluniau eofn, cyntefig, nes iddo ddychwelyd i Ostend ym 1919.
Fe ddylanwadodd ei ddarluniau o lafur ffermwyr a physgotwyr ar nifer o artistiaid, gan gynnwys Josef Herman, a gafodd gymorth ganddo wrth ffoi Gwlad Pwyl yn y 1930au.
Mewn cyferbyniad llwyr â'r Belgiaid a arhosodd am gyfnod byr yn unig, fe gafodd yr artist o Ffrainc, Lucien Pissarro effaith enfawr ar gelf Prydain. Fel plentyn fe ffodd Lucien rhag y Rhyfel Ffranco-Prwsia gyda'i dad, Camille. Fe ddychwelodd i Brydain dau ddegawd yn ddiweddarach a bu gyfarfod a phriodi ei wraig Saesnig. Fodd bynnag, yn sgil y Rhyfel Byd Cyntaf y penderfynodd ddod yn ddinesydd. Roedd ei ddealltwriaeth bersonol o'r Argraffiadwyr a'r Neo-Argraffiadwyr yn ddylanwad pwerus ar y Grŵp Camden Town: Dywedodd Spencer Gore ei fod yn 'ffynhonnell o egwyddorion go iawn' ac fe gydnabu Walter Richard Sickert bod Pissarro wedi ei ysgogi i arsylwi lliwiau mewn cysgodion. O'r flwyddyn y daeth yn ddinesydd, roedd yr olygfa o'i gartref ar draws pentref yn Wiltshire, fel petai'n dathlu Seisnigrwydd a phellter o'r rhyfela.
Fe wyddai Sickert yn iawn yr ansicrwydd a wynebai alltudion wrth geisio ailsefydlu eu bywydau mewn gwlad newydd, gan ei fod ef hefyd wedi dod i Brydain fel ffoadur pan oedd yn blentyn. Fe baentiodd Gonestrwydd Gwlad Belg ym 1914 er mwyn ei werthu a chodi arian ar gyfer Cronfa Gymorth Gwlad Belg ac – fel mae'r teitl yn awgrymu – er mwyn talu teyrnged i'r milwyr hynny a amddiffynnodd Liège. Fe ddaeth o hyd i filwyr a fyddai'n fodelau iddo, ac fe fenthycodd wisgoedd milwrol o ysbytai Llundain lle yr aethpwyd â milwyr a anafwyd. Mae'r ffigwr gwyliadwrus gyda sbectol y maes yn cynrychioli dewrder ei gydwladwyr, wedi ymwreiddio y tu cefn iddo yn y gwastadedd niwlog.
Fe yrrodd y don o totalitariaeth a hiliaeth yn y 1930au filoedd o bobl i ffoi o Awstria, yr Almaen, Gwlad Pwyl, Rwsia a gwledydd eraill. Yn yr Almaen, fe gydnabu'r Natsïaid bod celfyddyd yn beth pwerus yr oedd angen iddynt ei reoli. Cafodd artistiaid yr oedd y Natsïaid yn eu hystyried yn fodern o ran arddull, yn wleidyddol wahanol neu o dras 'heb fod yn Ariaidd' eu labelu'n 'ddirywiedig' (degenerate) ac fe'u gwaharddwyd rhag gweithio. Fe gafodd waith lawer o'r artistiaid hyn ei gymryd neu'i ddinistrio ac fe gafodd rai eu curo, eu dychrynu neu'u carcharu. Cafodd oddeutu 200 o artistiaid o'r Almaen a'r gwledydd a feddiannwyd gan yr Almaen eu llofruddio yn yr Holocost.
Rhwng 1933 a'r Ail Ryfel Byd fe ddaeth oddeutu 300 o artistiaid i Brydain. Fe gafodd y rhain fwy o effaith na'r alltudion o'r genhedlaeth flaenorol, a hynny am sawl rheswm: roedd y gymuned gelf yn gefnogol ohonynt, roedd nifer ohonynt wedi ymrwymo i sicrhau bod eu gwaith yn berthnasol ac fe arhosodd y rhan fwyaf ohonynt ym Mhrydain am weddill eu hoes. Drwy eu gweithrediadau personol, eu celf a'u dysgu fe sbardunwyd barn ffres ynglŷn â phaentio mynegiannol, adeileddiaeth, ffotograffiaeth ddogfen, animeiddio, cerfluniaeth gyhoeddus a graffeg.
Fe ysbrydolodd baentwyr megis Piet Mondrian, Jankel Adler a Josef Herman, y cerflunydd Naum Gabo, ffotograffwyr dogfen megis Bill Brandt a Felix H. Mann a'r animeiddiwr Lotte Reiniger rai o artistiaid Prydeinig pwysicaf canol yr ugeinfed ganrif.
Roedd Josef Herman yn fentor i sawl artist, gan gynnwys Will Roberts yng Nghymru, a chyn hynny Joan Eardley yng Nglasgow. Bu Herman gyfarfod ag Eardley cyn gynted iddo gyrraedd Glasgow ym 1940, pan yr oedd hithau newydd gychwyn astudio yn Ysgol Gelf y ddinas. Byddant yn cyfarfod yn rheolaidd am dair blynedd. Mae ei gwaith mynegiannol a'i defnydd cryf o liw wrth bortreadu plant a gweithwyr yn nhenementau Glasgow yn adleisio ei arddull eofn a'i ymrwymiad i fywyd gweithiol a'r gweithwyr.
Roedd dau o artistiaid rhagorol Prydain o ganol yr ugeinfed ganrif – Robert Colquhoun a'i bartner Robert MacBryde – wedi ymgysylltu â moderniaeth Ewropeaidd drwy'r artist Pwylaidd Jankel Adler. Bu'r ddau gyfarfod ag ef yng Nglasgow ac o 1943 buont yn rhannu tŷ a stiwdios gydag ef yn Llundain. Cyfeiriodd y ddau at Adler fel 'y Meistr'.
Bron yn syth fe ymgymerodd eu paentiad â nodweddion tebyg: eu dewis o ffigyrau, eu defnydd mynegiannol o liw a'u tueddiad i wastadu ffurfiau wrth iddynt symud o neo-ramantiaeth Brydeinig i arddull fwy Ewropeaidd.
Er y byddai Kurt Schwitters yn ddylanwad holl-bwysig ar Gelfyddyd Pop, Celfyddyd Gysyniadol a chelfyddyd gosodwaith, fe roedd bron yn hollol anhysbys ym Mhrydain yn ystod ei oes. Fe gychwynnodd greu ei gludweithiau Dadaidd o'r enw 'merz' neu 'ysbwriel' ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf. Cafodd ei gaethiwo ar ôl cyrraedd ond fe aeth ati i gwblhau hyd at 300 o ddarnau gyda deunyddiau hapgael. Ar ôl ei ryddhau bu fyw mewn tlodi yn Ardal y Llynnoedd tan iddo dderbyn tâl gan MOMA yn Efrog Newydd i adeiladu 'Merzbarn', sef ail-greu ei amgylchfyd gludwaith arloesol a grëwyd am y tro cyntaf yn yr Almaen yn y 1930au. Bu farw diwrnod ar ôl derbyn ei ddinasyddiaeth Brydeinig ym 1948.
Yn anochel, roedd llawer o artist-ffoaduriaid y cyfnod yn lawer llai adnabyddus ac ni werthfawrogwyd eu gwaith i'r un graddau. Fe anogwyd Else Meidner i astudio celfyddyd gan Käthe Kollwitz ac fe gafwyd sioe unigol ym Merlin ym 1932. Fe ddaeth i Lundain gyda'i gŵr, y mynegiadwr Almaenaidd Ludwig Meidner, ym 1939. Roeddent yn byw mewn tlodi: fe gafodd y ddau waith – Meidner fel gwas mewn mortiwari a hithau fel morwyn ddomestig. Yn dilyn y rhyfel, fel y rhan fwyaf o artistiaid Iddewig, roedd y syniad o symud yn ôl i'r Almaen, yn gwybod am bopeth a ddigwyddodd yn yr Holocost yn annirnadwy. Fodd bynnag, 40 mlynedd ar ôl cyrraedd Llundain dywedodd Else Meidner: 'Yma yn Llundain dw i'n cerdded o gwmpas y lle fel petawn mewn breuddwyd, ac mae'n syndod gen i fy mod i yma. Mae rhai planhigion yn ffynnu ym mha bynnag le y byddwch yn eu trawsblannu, ond ni fedrwn i fyth osod gwreiddiau newydd. Mae fy ngwreiddiau ym Merlin.'
Ers yr Ail Ryfel Byd, er bod cydweithredu rhyngwladol wedi gwella ar hawliau dynol a heddwch yng ngorllewin Ewrop, mae rhyfel ac erledigaeth wedi cynyddu mewn mannau eraill. Yn y 75 mlynedd ddiwethaf mae artistiaid wedi ffoi i Brydain o Tsiena, gwledydd y tu cefn i'r Llen Haearn, unbenaethau yn Ne America ac Affrica a rhyfeloedd yn yr hen Iwgoslafia a'r Dwyrain Canol. Ymhlith yr artistiaid sy'n cynnal gyrfaoedd ym Mhrydain heddiw mae Humberto Gatica o Tsili, Hanaa Malallah a Walid Siti o Irac, Zory Shahrokhi o Iran a Samira Kitman o Affganistan. Mae Mona Hatoum, a anwyd yn Beirut, yn un o'r artistiaid Prydeinig mwyaf dylanwadol ei chenhedlaeth.
Gall argyfyngau newydd godi yn sydyn ac yn ddinistriol. Mae ceiswyr lloches diweddar wedi ffoi rhag erchyllterau IS, erledigaeth ideolegol yn Iran ac Affganistan a rhyfel Cwrdistan. Mae'r nifer o bobl a ddadleolir ledled y byd wedi cyrraedd y nifer uchaf erioed: 70 miliwn. Mae'r nifer helaeth yn parhau i fyw yn eu mamwlad neu mewn gwledydd cyfagos ond mae Prydain wedi cynnig lloches i nifer fechan o ffoaduriaid.
Mae artistiaid sydd wedi dod i Brydain fel ffoaduriaid neu fel ymwelwyr sydd methu â dychwelyd adre yn gwneud cyfraniad i ddiwylliant Prydain. Yn aml maent yn cofnodi eu profiadau fel pobl heb wladwriaeth a'u profiadau o ryfel neu ormes. Mae rhai'n mynegi atgofion o gartrefi yr oedd yn rhaid iddynt eu ffoi, neu'n parhau i ymarfer gyda ffurfiau traddodiadol a synwyrusrwydd o ddiwylliannau eraill. Mae effaith y mudwyr diweddar hyn yn parhau i ddatblygu.
Peter Wakelin, awdur a churadur
Cynhaliwyd yr arddangosfa 'Refuge and Renewal: Migration and British Art' yn Academi Frenhinol Gorllewin Lloegr, Bryste o 14eg o Ragfyr 2019 tan 1af o Fawrth 2020, ac yn MOMA Machynlleth o 14eg o Fawrth tan 6ed o Fehefin 2020
Cyhoeddir Refuge and Renewal: Migration and British Art gan Peter Wakelin gan Sansom and Company.
Cyfieithiad o'r Saesneg
Cefnogwyd y cyfieithiad gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru